Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Blodau ar gyfer ardaloedd trefol

Published: 25/08/2021

IMG_0116.JPGMae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i greu ardaloedd ar gyfer bioamrywiaeth ar draws y sir.

Aeth Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts, yr aelod lleol, y Cynghorydd Michelle Perfect a’r AS Rhanbarthol, Carolyn Thomas, i ymweld ag un ddôl blodau gwyllt o’r fath yn y Fflint yn ddiweddar. Roedd Carolyn Thomas yn rhan allweddol o ddatblygu’r rhaglen hon pan oedd hi’n Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad gyda Chyngor Sir y Fflint.

Mae’r dolydd blodau gwyllt trefol hyn yn creu ardal liwgar o ddiddordeb i drigolion, yn ogystal â chynefin hollbwysig i wenyn, gloÿnnod byw a phryfaid.

Dywedodd y Cynghorydd Roberts:

“Roedd yn bleser gweld y gwaith sydd wedi’i wneud wrth greu ardal ar gyfer bioamrywiaeth. Mae dolydd blodau gwyllt yn cynnig cynefin ddeniadol i bawb ei mwynhau. Rydym wedi efelychu hyn mewn ardaloedd eraill yn y sir, gan weithio gyda chynghorau tref a chymuned a gwirfoddolwyr, gan fod angen rheolaeth ofalus er mwyn cynnal a chadw’r ardal.”

Mae Dôl y Coroni yn Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug wedi bod dan reolaeth cadwraeth am dros 6 mlynedd, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. 

Fe gafodd y gwaith hwn ei ariannu gan grant Llywodraeth Cymru trwy Gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn 2020 a chafwyd cyllid ychwanegol er mwyn gallu parhau eleni, gan ganolbwyntio ar greu safleoedd blodau gwyllt ar ein rhwydwaith trafnidiaeth trefol.

Mae’r prosiectau’n canolbwyntio ar wella gwerth bioamrywiaeth lleoedd lle mae pobl yn byw, teithio a gweithio.   Trwy brosiect cyllid grant ychwanegol, Partneriaethau Natur Lleol Cymru, rydym wedi gallu mapio 80 safle blodau gwyllt ar draws ein rhwydwaith ffyrdd. 

Mae’r gwaith hwn yn ategu ein trefn o dorri gwair yn llai aml, a defnyddio llai o chwynladdwyr – defnyddir dull amgen o reoli chwyn heb ddefnyddio cemegau bellach, mewn safleoedd wedi’u targedu, gyda chanlyniadau cadarnhaol. 

IMG_0113.JPG       IMG_0125.JPG