Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


#HafoHwyl

Published: 06/09/2021

Ian roberts visit.jpgFel rhan o fenter Llywodraeth Cymru gweithiodd gwasanaethau addysg ac ieuenctid Cyngor Sir y Fflint gyda phartneriaid i drefnu a chynnal amrywiaeth o weithgareddau er mwyn i blant a phobl ifanc y sir fwynhau #HafoHwyl. 

Derbyniodd Sir y Fflint £218,000 i gynnal gweithgareddau gwych ar hyd a lled y sir. 

Cynhaliodd Llyfrgelloedd Aura a Datblygu Chwaraeon Aura raglen ‘Fit, Fed and Read’ a oedd yn rhoi cyfle i blant wneud gweithgarwch corfforol ac yn hyrwyddo deiet iach drwy ddarparu byrbrydau iach. Ychwanegodd Aura yr elfen llyfrgelloedd, gan ganolbwyntio ar ddarllen a bod yn greadigol. Roedd Sorted Sir y Fflint a’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid hefyd yn y sesiynau, gan ymgysylltu â thros 800 o bobl ifanc.

Meddai Susannah Hill o Lyfrgelloedd Aura: 

“Rydym ni wedi llwyddo i fynd â’n gwasanaethau at gymunedau ac ymgysylltu gyda phlant a theuluoedd ar hyd a lled y sir, ac yn aml iawn roeddem ni’n dod ar draws teuluoedd nad ydynt nhw fel arfer yn teimlo’n gyffyrddus yn defnyddio llyfrgelloedd. Rydym ni’n gobeithio ein bod ni wedi dymchwel rhai rhwystrau a dangos bod ein gwasanaeth yn estyn croeso cynnes ac yma i bawb.”

Roedd y cynnig darllen yn rhoi cyfle i deuluoedd dreulio amser yn darllen llyfrau llyfrgell gyda’i gilydd ac i wrando ar straeon, rhoi cynnig ar grefftau a lliwio yn ogystal â bod yn gyfle i’r plant gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf – ‘Arwyr y Byd Gwyllt’. Dros bum wythnos yr haf, cofrestrodd 600 o blant i gwblhau'r Sialens Ddarllen a rhoddodd Aura dros 800 o fagiau llyfrau a llyfrau am ddim.

Meddai Dan Williams o Ddatblygu Chwaraeon Aura:

“Cynhaliwyd dros 300 o sesiynau a rhwng bob man cymerodd 3300 o blant ran a darparwyd 1605 pecyn cinio. Llwyddwyd i ddarparu llawer o weithgareddau amrywiol i bawb, o ddawnsio stryd i bêl-droed yn ogystal â gweithgareddau a ddarparwyd gan ein partneriaid i blant o bob oed. Mae’r rhaglen wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac roedd yn braf bod yn rhan ohoni!”

Cynhaliodd Sorted Sir y Fflint sesiynau lle bu i dros 100 o bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau a thrafod risgiau defnyddio sylweddau fel alcohol, tybaco a diodydd egni. Yn sgil y sesiynau yma mae 32 person ifanc bellach yn derbyn cymorth ychwanegol a dywedodd llawer o rai eraill bod eu lles a’u hymwybyddiaeth o’r risgiau sydd ynghlwm wrth gyffuriau ac alcohol wedi gwella. 

Cefnogodd y Tîm Cynhwysiant a Chynnydd a Sorted Sir y Fflint bobl ifanc i roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys: 

  • Cymorth Cyntaf Anifeiliaid Anwes, Gofal Ceffylau ac Addysg Wledig, a oedd yn darparu sgiliau ymarferol a gwybodaeth yn ogystal â hwyl a chyfle i fagu hyder. Derbyniodd y rheiny a gwblhaodd y cwrs Cymorth Cyntaf Anifeiliaid Anwes gymhwyster 
  • Gwneud cacennau, prydau a chrefftau – canhwyllau, nodau tudalen a jamiau
  • Roedd y gweithgareddau eraill yn cynnwys teithiau i Theatr Clwyd a Fferm Rhug, dringo yn y Board Room, gwneud crochenwaith a mynd am dro i’r traeth

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Yn ffodus iawn cefais gyfle i fynd i un o'r digwyddiadau Fit, Fed and Read, ac roedd yn braf gweld y plant yn cael hwyl ac yn sgwrsio gyda’i gilydd. Mae’r deunaw mis diwethaf wedi bod yn anodd iawn i bawb, yn enwedig i’n plant, ac mae’r arian yma gan Lywodraeth Cymru wedi derbyn croeso cynnes gan Sir y Fflint ac wedi’i ddefnyddio at achos da iawn.

“Dw i wedi rhyfeddu at yr amrywiaeth o weithgareddau y mae ein timau a’n partneriaid wedi'u cynnal i sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael yr haf gorau posibl. Yn ogystal â chael hwyl yn ystod y gweithgareddau mae rhai hefyd wedi llwyddo i ennill cymwysterau defnyddiol ar gyfer y coleg neu fyd gwaith. 

“Mae’n braf clywed bod y bobl ifanc wedi gwneud ffrindiau newydd, wedi dysgu sgiliau newydd ac wedi magu hyder.”

Cynhaliodd Theatr Clwyd, mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, ganolfan haf tair wythnos ar gyfer 68 o blant a phobl ifanc ddiamddiffyn. Roedd y ganolfan yn cynnwys artistiaid o wahanol ddisgyblaethau – drama, cerdd, dawns, dylunio setiau, celf a ffilm, a weithiodd gyda’r plant. Cafodd bob grwp gyfle i berfformio neu arddangos eu gwaith yn ystod parti i ddathlu. Yn ystod y deunaw mis diwethaf mae’r theatr wedi dod yn ail gartref i lawer o bobl ifanc.

Roedd y gweithgareddau eraill yn cynnwys: 

  • Cynhaliodd Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint sesiynau galw heibio lles i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed ym Mharc Gwepra. Denodd bob sesiwn dros 25 o bobl ifanc, a gymerodd ran mewn gweithgaredd celf a chrefft, chwaraeon a sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar a lles 
  • Manteisiodd ein cynlluniau chwarae haf arferol ar y cyllid hefyd, gan gynnal sesiynau ychwanegol ar gyfer plant anabl. At ei gilydd, cofrestrodd dros 2,700 o blant 5-12 oed i fynychu 1055 o sesiynau chwarae ar draws y sir. 

Mae prosiect Haf o Hwyl £5 miliwn Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiaeth o weithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliannol yn rhad ac am ddim i blant a phobl ifanc 0-25 oed er mwyn cefnogi eu lles cymdeithasol, emosiynol, corfforol a meddyliol. Tri phrif amcan Haf o Hwyl ydi:

• Cefnogi hwyl a rhoi cyfle i blant a phobl ifanc fynegi eu hunain drwy chwarae 

• Darparu mentrau rhyngweithiol, creadigol a chwarae cymunedol i bob oed

• Darparu cyfleoedd i chwarae gyda ffrindiau a chyfoedion