Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn anrhydeddu diwrnod y Llynges Fasnachol

Published: 08/09/2021

Armed Forces Flag (2 of 5).jpgDdydd Gwener, 3 Medi, cododd Cyngor Sir y Fflint y Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol. Mae’r Cyngor yn falch o ddangos cefnogaeth i’r morwyr y mae'r Deyrnas Unedig yn dibynnu arnynt.

Ers 2000, mae Diwrnod y Llynges Fasnachol wedi anrhydeddu’r dynion a’r merched dewr a fu’n gwarchod ein hynys yn ystod y ddau Ryfel Byd. Rydym hefyd yn dathlu ein dibyniaeth barhaus ar forwyr masnachol presennol sy’n gyfrifol am 95% o fewnforion y DU, gan gynnwys llawer o’r bwyd rydym yn ei fwyta, y rhan fwyaf o’r tanwydd rydym yn ei losgi, a bron yr holl gynnyrch a’r nwyddau rydym yn eu cymryd yn ganiataol.

Meddai Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Joe Johnson:

“Fel teyrnged i ymrwymiad, dewrder a hunanaberth ein morwyr presennol a morwyr y gorffennol, rydym yn falch o godi’r Lluman Coch i gefnogi Diwrnod y Llynges Fasnachol. Mae gan y Llynges Fasnachol ran bwysig yn ein hanes fel cenedl ac mae hi’n dal i gludo cyflenwadau hanfodol yn ddiogel at ein glannau.”