Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun premiwm Treth y Cyngor i ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor

Published: 16/09/2021

Yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth, 21 Medi, gofynnir i aelodau Cabinet ystyried adolygu lefel y premiwm treth y cyngor a godir ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor, sydd yn 50% ar hyn o bryd.

Yn Ebrill 2017 cyflwynodd y Cyngor gynllun i godi premiwm o 50% ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor i annog perchnogion i'w defnyddio.  Ers hynny, mae’r Cyngor wedi penderfynu parhau gyda’r cynllun ond heb unrhyw newid i’r lefelau premiwm.  

Ar hyn o bryd mae 772 o eiddo sy’n talu premiwm o 50%, yn cynnwys 605 o eiddo gwag hirdymor a 167 o ail gartrefi – ar gyfnod pan fo prinder tai yn genedlaethol.  

Mae hon yn broblem genedlaethol gynhennus gyda galwadau i wneud bod yn berchen ar ail gartrefi yn llai deniadol – trwy osod premiwm – mewn ardaloedd ble mae prinder tai lleol. Mae awdurdodau lleol Cymru yn codi premiwm yn amrywio o 25% i 100%.

Byddai adolygiad yn ystyried:

• A ddylid gostwng y premiwm, a ddylai aros yr un fath neu a ddylid ei gynyddu ac i ba lefelau canran?

• A ddylai’r lefel premiwm fod yn un fath i eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi neu a ddylid cael cyfraddau canran gwahanol?

Dywedodd Dirprwy Arweinydd (Llywodraethu) a'r Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau, y Cynghorydd Billy Mullin:

“Mae datrys problemau tai a diwallu'r galw yn fater cymhleth sy’n cynnwys llywodraethau cenedlaethol a lleol.  Ni fyddai adolygiad o’r premiwm treth y cyngor presennol yn ‘fwled arian' i ddatrys y galw lleol am dai fforddiadwy - ond gallai fod yn un o ystod o fesurau i gymell perchnogion i ail-ddefnyddio eiddo gwag.

“Mae’r cynllun premiwm yn darparu incwm Treth y Cyngor ychwanegol i fodloni’r galw am wasanaethau neu i ddefnyddio unrhyw refeniw ychwanegol a gynhyrchir i helpu i fodloni anghenion o ran tai lleol.”

Gyda’r lefel premiwm presennol wedi ei osod ar 50% ar gyfer eiddo hirdymor ac ail gartrefi, cynhyrchir £649,000 o incwm ychwanegol yn flynyddol trwy’r cynllun premiwm (£509,000 ar gyfer eiddo gwag hirdymor a £140,000 ar gyfer ail gartrefi).

Byddai’r adolygiad yn ystyried effeithiau unrhyw newid mewn premiwm a byddai’r Cyngor yn sicrhau bod ymgynghoriad cyhoeddus cyn cyflwyno unrhyw argymhellion i’r Cabinet.