Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygiad Thematig Estyn

Published: 16/09/2021

Pan fydd yn cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn, gofynnir i Gabinet Sir y Fflint gydnabod gwaith effeithiol y Portffolio Addysg, ar y cyd â’r gwasanaeth rhanbarthol gwella ysgolion GwE, i sicrhau fod dysgwyr Sir y Fflint wedi parhau i gael darpariaeth addysgol effeithiol trwy’r pandemig Covid-19.

Yn dilyn adolygiad o'r 22 gwasanaeth addysg yng Nghymru yn hydref 2020, bu i Estyn adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru, gan wneud pum argymhelliad allweddol i Lywodraeth Cymru a chynghorau i’w trin fel a ganlyn: 

  1. Ymdrin ar frys â rhwystrau i ddysgu yn y cartref, yn arbennig pan fo hyn o ganlyniad i ddiffyg mynediad i gyfrifiaduron addas neu gysylltedd digonol.
  2. Gwella ansawdd profiadau dysgu cyfunol a dysgu o bell i ddisgyblion trwy gefnogi addysgu mwy effeithiol ar draws ac o fewn ysgolion ac unedau atgyfeirio disgyblion.
  3. Datblygu dull cydlynol i wella cynnydd mewn llythrennedd, rhifedd a sgiliau cymdeithasol a personol disgyblion agored i niwed a effeithiwyd yn anghyfartal gan y pandemig, er enghraifft disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
  4. Sefydlu strategau i fonitro ac ymdrin ag effaith hirdymor y pandemig ar iechyd meddwl a chorfforol disgyblion.
  5. Creu cyfleoedd i ystyried a gwerthuso effaith polisïau ac arferion a ddatblygwyd ers cychwyn y pandemig i gefnogi ffyrdd o weithio a dylunio’r cwricwlwm yn y dyfodol.

Roedd llythyr arolwg cyntaf Sir y Fflint, a gafwyd yn Ionawr 2021, yn gadarnhaol iawn ac yn amlinellu ymateb sydyn ac effeithiol y Cyngor i gefnogi plant ac ysgolion o gychwyn y pandemig.

Yn benodol roedd yn cydnabod yr arweinyddiaeth gref gan Dîm Ymateb i Argyfwng y Cyngor a’r Portffolio Addysg. 

Bu iddo amlygu cryfder y cydweithio ar draws y Cyngor a gyda phartneriaid allanol e.e. GwE, i addasu gwasanaethau yn effeithiol i ddiwallu anghenion plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn ystod yr argyfwng cenedlaethol.

Yn ystod tymor yr haf 2021, cynhaliodd Estyn adolygiadau dilynol gyda phob cyngor i ystyried y cynnydd a wneir yn erbyn y pum argymhelliad ac eto roedd adborth Sir y Fflint yn gadarnhaol iawn ym mhob maes.

Dywedodd, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Mae adolygiad dilynol Estyn yn darparu lefel uchel o sicrwydd fod y Portffolio Addysg wedi parhau i weithio'n effeithiol trwy ei adnoddau ei hun, a thrwy ei gefnogaeth i ysgolion mewn partneriaeth â GwE, i sicrhau darpariaeth addysgol o ansawdd i ddysgwyr, yn arbennig y rhai a ystyrir i fod fwyaf agored i niwed.

“Rwy’n croesawu’r gydnabyddiaeth hon o’n safle a pherfformiad ac rwy’n hynod o falch bod yr arolygwyr wedi cydnabod y cynnydd da sy’n cael ei wneud gan wasanaeth addysg Sir y Fflint. Mae’n gredyd i waith caled pawb yn ystod amser hynod o anodd." 

Dywedodd y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard:

“Mae Estyn wedi nodi’r gwaith effeithiol rhwng tîm addysg y Cyngor, ein hysgolion, gwasanaeth rhanbarthol gwella ysgolion ac ystod eang o bartneriaid allweddol. Y bartneriaeth gref hon sy’n darparu profiad addysgol o safon i ddysgwyr yn Sir y Fflint, a dylem oll fod yn falch iawn ohoni.”