Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lansio ymgyrch i roi hwb mawr i nifer ac amrywiaeth gofalwyr maeth yn Sir y Fflint

Published: 20/09/2021

Male small.jpgNod ymgyrch Maethu Cymru, rhwydwaith newydd o wasanaethau maethu 22 o awdurdodau lleol ledled y wlad, yw cael effaith sylweddol yn genedlaethol ar ddyfodol pobl ifanc. 

Wrth i fwy na thraean (39%) o oedolion yng Nghymru ddweud eu bod wedi ystyried bod yn ofalwyr maeth, mae ymgyrch newydd yn lansio heddiw drwy Gymru gyfan, gyda’r nod o roi hwb mawr i nifer ac amrywiaeth gofalwyr maeth awdurdodau lleol.

Yr awdurdod lleol sy’n gofalu am bob plentyn ledled y sir sydd angen gofalwr maeth. Mae’r ymgyrch hysbysebu ddwyieithog newydd, sy’n cynrychioli Sir y Fflint a’r 21 o dimau maethu di-elw’r awdurdodau lleol eraill sy’n rhan o Maethu Cymru, â’r nod o gynyddu nifer y rhieni maeth sydd ar gael i helpu plant i aros yn lleol os mai hynny yw’r peth iawn iddynt.  

Gall helpu plant i aros yn eu cymunedau lleol fod o fudd mawr a meddwl y byd i’r plentyn. Nid yn unig ei fod yn eu cadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau, eu hysgol a’u hunaniaeth ond mae hefyd yn meithrin hyder ac yn lleihau straen. 

Meddai Jenny, gofalwr maeth yn Sir y Fflint:Jenny small.jpg

 “Mae aros yn lleol yn bwysig i blant. Mae eu rhieni, eu brodyr a’u chwiorydd yn bwysig iawn iddynt. Mae’n eu helpu i wybod na ydynt yn rhy bell o gartref.

 “Fe ddechreuais i faethu ar ôl ymddeol. Ro’n i wedi gweithio gyda phlant mewn gofal drwy’r ysgol. Mi feddyliais y gallai gynnig cartref i blentyn yn ei arddegau olygu bod y plentyn hwnnw’n medru dal ati gyda’i addysg.

 “Drwy agor y drysau i’ch cartref gallwch gynnig diogelwch i blentyn. Dyna beth rydych chi eisiau i blant yn y pen draw, eu bod nhw’n teimlo’n ddiogel. Bod rhywun yn gwrando arnyn nhw, ac yn gadael iddyn nhw fod yn blant. Gallwch roi eu plentyndod yn ôl iddynt.

 “Mae pob plentyn yn wahanol a’u hamgylchiadau’n wahanol. Dw i’n dueddol o ddod i’w hadnabod yn raddol a pheidio â’u gorlwytho’n syth wrth iddynt ddod drwy’r drws.

 “Mae’r cartref i fod yn lle diogel. Rydyn ni’n dangos iddyn nhw fod yno ffordd wahanol o fyw. Dydi rhai ohonynt erioed wedi cael stori amser gwely, mynd allan am dro neu fynd i rywle am bryd o fwyd. Mae mynd am ginio mewn tafarn yn brofiad mawr os nad ydych erioed wedi’i wneud o’r blaen. Mae’n rhaid ichi fod yn arbennig o amyneddgar. Dydi llawer o’r plant heb arfer â chael prydau bwyd rheolaidd.”

Amcangyfrifir bod angen recriwtio 550 o ofalwyr a theuluoedd maeth newydd yng Nghymru bob blwyddyn. 

Nid oes unrhyw ddau blentyn yr un fath; na’r gofal maeth maen nhw ei angen chwaith. Nid oes y fath beth â theulu maeth ‘normal’. Gall fod yn deulu sy’n berchen ar gartref neu’n rhentu, a gall gofalwr maeth fod yn briod neu’n sengl. Beth bynnag yw eich rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd neu ffydd, mae pobl ifanc yn eich cymuned sydd angen rhywun i fod ar eu hochr nhw.

Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint:

 “Mae pobl sy’n maethu yn bobl dwymgalon a gofalgar. Dyna beth sydd ar blant ei eisiau, a dyna’r peth cyntaf rydym yn chwilio amdano.

 “Gobeithiwn groesawu llawer mwy o bobl i’r byd maethu gyda Maethu Cymru dros y misoedd nesaf. Mae gan bob plentyn hawl i ffynnu. Y cyfan sydd ei angen yw bod mwy o bobl fel chi ac fel Jenny’n agor eu drysau a rhoi croeso i’r plant.

 “Gall pawb sy’n maethu â thîm Maethu Cymru Sir y Fflint fod yn ffyddiog y byddwn wrth law bob cam o’r ffordd i gynnig arbenigedd, cyngor a hyfforddiant i’w cefnogi ar eu taith.

 “Mae tîm maethu’r awdurdod lleol wedi gweithio â llawer iawn o blant ac yn gyfarwydd â’u hanesion. Mae ganddynt lawer iawn o wybodaeth.” 

Bydd ymgyrch newydd Maethu Cymru’n ymddangos ar deledu, radio, Spotify a chyfryngau digidol. 

I gael gwybod mwy am faethu gyda Chyngor Sir y Fflint, ewch i www.maethucymru.siryfflint.gov.uk.