Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Erlyniad llwyddiannus yn erbyn cyflogwr esgeulus

Published: 27/09/2021

Fe wnaeth tîm Iechyd yr Amgylchedd yng Nghyngor Sir y Fflint arwain erlyniad llwyddiannus yn Llys y Goron yn erbyn Cartref Gofal Preswyl a Dementia Pearlcare Wellfield ym Mhenarlâg.

Cafwyd y cwmni’n euog ar bum cyfrif o dorri cyfraith iechyd a diogelwch ar ôl i’w rheolwr ddisgyn i lawr siafft lifft ym mis Gorffennaf 2018, dri diwrnod ar ôl dechrau ei swydd newydd.

Cafodd y rheolwr anafiadau difrifol ac roedd yn lwcus ei bod wedi byw.  Cafodd y cwmni ddirwy o £175,000 gyda chostau.

Roedd yr ymchwiliad yn dangos nad oedd unrhyw asesiad risg na systemau diogel i ddefnyddio’r lifft.

Dywedodd y Cynghorydd Christopher Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd:

“Dyma achos trasig lle cafodd gweithiwr ei hanafu’n ddifrifol, a gallai fod wedi marw o ganlyniad i esgeulustod ei chyflogwr.  Mae’r erlyniad hwn yn rhoi neges glir ynglyn â pha mor ddifrifol mae Cyngor Sir y Fflint yn ystyried materion fel hyn."

Wrth ddedfrydu, dywedodd y Barnwr fod lefel y niwed yr uchaf y gallai fod – marwolaeth, a bod yr achos yn gosod safonau uchel o ran cydymffurfio ag iechyd a diogelwch lle mae gweithwyr ac eraill yn agored i risgiau mae modd eu rhagweld.