Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgol leol yn croesawu dysgu yn yr awyr agored

Published: 29/09/2021

 

Staff a disgyblion Ysgol Derwenfa Coed-Llai yn croesawu dysgu yn yr awyr agored yr hydref hwn. Leeswood Primary School (12 of 12).jpg

Roedd yr ysgol gyfan wedi mwynhau diwrnod hydrefol gydag arbenigwyr dysgu yn yr awyr agored Polly a Carolyn.  Roedd pob plentyn o’r feithrinfa i flwyddyn 6 wedi defnyddio deunyddiau naturiol i chwarae, creu a dysgu. 

Mae staff Ysgol Derwenfa wedi manteisio ar ddysgu yn yr awyr agored yn dilyn sesiynau hyfforddiant ysbrydoledig gydag ymarferwyr dysgu yn yr awyr agored lleol yn yr ysgol, a bellach yn ei gyflwyno i ddisgyblion gyda diwrnod dysgu yn yr awyr agored â thema Hydrefol. 

Mae defnyddio’r awyr agored fel ystafell ddosbarth yn cynnwys manteision cyfannol diddiwedd i blant a staff.  Mae staff ysgol yn mwynhau hyfforddiant oedd wedi dechrau yn ôl ym mis Mehefin a bellach maent yn teimlo’n ysbrydoledig i ddefnyddio’r awyr agored boed law neu hindda.  Mae eu syniadau a gwybodaeth ar sut y gallant ddefnyddio gweithgareddau yn seiliedig ar natur, archwilio a chwarae yn cael eu datblygu gan gynnig llawer o ddeilliannau dysgu cadarnhaol i’r disgyblion a pha mor dda mae’nLeeswood Primary School (10 of 12).jpg cysylltu â’r cwricwlwm.   Mae pawb sy’n cymryd rhan yn mwynhau defnyddio eitemau naturiol boed yn frigau ar gyfer rhifedd a dail ar gyfer llythrennedd, gall pob elfen fod yn drawsgwricwlaidd ac yn fuddiol ar gyfer lles. 

Mae cysylltu â natur yn bwysig iawn ar gyfer dealltwriaeth plant o’r gofod awyr agored, i ofalu am natur a’r amgylchedd a chysylltu’n llwyddiannus â phynciau ystafell ddosbarth mewn ffyrdd hwyliog a chymryd rhan sy’n gadael atgofion a phrofiadau dysgu o ansawdd uchel. 

Dywedodd y Pennaeth Mr Andrew Jones: 

 “Yn dilyn y cwrs hyfforddiant awyr agored gan Polly Snape a Carolyn Burkey yn ôl ym mis Mehefin, rydym yn gyffrous a brwdfrydig i ddatblygu ein hardal awyr agored a’r defnydd cyffredinol o’r awyr agored.  Rydym yn hynod o lwcus i gael tir bendigedig a gyda eu cymorth nhw rydym yn dysgu am yr adnoddau naturiol a sut y gallwn wella ein gwersi a chynnwys yLeeswood Primary School (8 of 12).jpg cwricwlwm newydd drwy ddysgu yn yr awyr agored. Fel rhan o’n “cyllid ysgol fach”, rydym yn falch fod Polly a Carolyn wedi dychwelyd i gyflwyno’r sesiwn hydrefol hwn i’r ysgol gyfan a darparu’r sesiwn hyfforddiant staff hwn ar ôl ysgol.”

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid, y Cynghorydd Ian Roberts: 

 “mae’n galonogol iawn gweld plant Sir Y Fflint yn mynd allan i’r awyr agored.  Mae manteision lles ac addysgol dysgu yn yr awyr agored yn ddiddiwedd.  Mae’r ysgol yn gwneud yn fawr o’r cyfle hwn i uwchsgilio’r staff a chynnwys y plant yn y sesiynau hyn, sefydlu dyfodol o ddysgu ysbrydoledig ar dir yr ysgol.    Rwy’n siwr eu bod yn cael cymaint o hwyl yn defnyddio’r deunyddiau naturiol i ddysgu a chwarae.”