Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor yn estyn croeso i arwyr y byd athletau

Published: 15/11/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cynnal digwyddiad dinesig arbennig er mwyn cydnabod llwyddiannau arwyr Paralympaidd y sir. Cafodd Sabrina Fortune, enillydd y fedal efydd yn y gystadleuaeth taflu maen F20 a Beverley Jones a gymerodd ran yn y gystadleuaeth disgen F37 yn 2016 – y 5ed Gemau Paralympaidd yn olynol iddi gystadlu ynddynt - eu croesawu mewn derbyniad arbennig gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Peter Curtis, yr Arweinydd, y Cynghorydd Aaron Shotton a’r Prif Weithredwr, Colin Everett, ar y cyd â chynghorwyr a swyddogion eraill. Ar ôl y derbyniad mynychodd yr athletwyr gyflwyniad cyn dechrau cyfarfod y Cyngor Sir yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug pan roddwyd tusw o flodau i’r ddwy ohonynt gyda phawb yn codi ar eu traed i’w cymeradwyo. Meddai Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Peter Curtis: “Mae’n anrhydedd enfawr cael croesawu’r athletwyr penigamp hyn i Neuadd y Sir heddiw. Ar ran pawb yng Nghyngor Sir y Fflint, hoffwn ddiolch i’r ddwy ohonoch am eich cyfraniad anhygoel i chwaraeon, nid yn unig yn genedlaethol ond hefyd yn yr ardal leol. Rydw i wrth fy modd fod Beverley, Sabrina a’u gwesteion wedi gallu ymuno â ni heddiw. Dydy hi ddim ond yn iawn fod y sir sy’n gartref iddynt yn cydnabod eu llwyddiannau ac rwy’n llongyfarch y ddwy ohonynt yn wresog ar eu llwyddiant.