Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaeth Casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol

Published: 06/10/2021

Rydym yn falch o gyhoeddi o 1 Tachwedd 2021 y byddwn yn cyflwyno gwasanaeth casglu gwastraff ty ar wahân ar gyfer gwastraff Cynnyrch Hylendid Amsugnol.

 

Mae Cynnyrch Hylendid Amsugnol yn ddeunyddiau gwastraff heb fod yn glinigol a meddygol fel clytiau tafladwy neu badiau anymataliaeth.  Rydym yn cydnabod y bydd rhai aelwydydd angen help i gael gwared ar yr eitemau hyn ac rydym felly wedi cyflwyno gwasanaeth casglu ychwanegol i fynd i’r afael â’r math yma o wastraff.

 

Gwahoddir aelwydydd sydd angen y gwasanaeth hwn i lenwi e-ffurflen ar-lein sydd i’w gael ar Wefan y Cyngor neu fel arall ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Gwasanaethau Stryd ar 01352 701234.

 

Unwaith y bydd ceisiadau wedi’u cymeradwyo, bydd cynwysyddion yn cael eu dosbarthu i aelwydydd cymwys a chasgliadau yn cael eu gwneud yn wythnosol am gyfnod o ddwy flynedd neu tan na fydd eu hangen rhagor (os bydd hynny’n gynharach).  Yn dibynnu ar faint fydd yn manteisio ar y gwasanaeth hwn, mae’n bosibl na fydd y diwrnod casglu’r un fath â’r diwrnod arferol ar gyfer casgliadau gwastraff ac ailgylchu.

 

Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant Sir y Fflint, y Cynghorydd Glyn Banks:

 

 “I aelwydydd sy’n defnyddio Cynnyrch Hylendid Amsugnol, fel y rheiny gyda phlant ifanc mewn clytiau, mae cael digon o le yn y bin du a chael gwared ar y math yma o wastraff yn her. Y newyddion da yw y byddwn yn cyflwyno gwasanaeth casglu wythnosol ar gyfer cynnyrch hylendid amsugnol o 1 Tachwedd 2021.”

 

 “Rydym yn cyflwyno’r gwasanaeth hwn i gyd-fynd â’r dull sy’n cael ei argymell gan Lywodraeth Cymru ar gyfer casgliadau gwastraff ac ailgylchu ar draws Cymru, ac mae gennym y nod hirdymor o ddarganfod ateb i allu ailgylchu’r ffrwd wastraff anodd hon.

 

 “Bydd y broses ymgeisio yn agor ar 4 Hydref 2021 a fydd yn rhoi amser i ddosbarthu cynwysyddion i breswylwyr cyn i’r gwasanaeth casglu ddechrau ar ddydd Llun, 1 Tachwedd 2021.”

 

Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol i’w gael ar wefan y Cyngor.