Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghoriad ynghylch cael gwared ar rwymedigaeth pobl gymwys sy’n gadael gofal i dalu Treth y Cyngor

Published: 13/10/2021

Ar 19 Hydref bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cwrdd – a bydd gofyn i’r Aelodau gefnogi newidiadau arfaethedig i’r rheoliadau Treth y Cyngor i gael gwared ar atebolrwydd, cyd ac unigol, pobl 24 oed ac iau sy’n gadael gofal i dalu Treth y Cyngor.  

Ers i Lywodraeth Cymru gyflwyno’r rheoliadau fis Ebrill 2019, fel rheol mae pobl 24 oed ac iau sy'n gadael gofal ac yn byw yng Nghymru wedi’u heithrio rhag talu Treth y Cyngor. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn ymgynghori ynghylch cynigion i gael gwared ar y risg y gallai unigolyn sy'n gadael gofal fod yn gyfrifol am dalu Treth y Cyngor os yw unigolyn arall yn eu haelwyd yn methu â thalu.  

Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau:

Dw i’n falch o gefnogi’r newidiadau arfaethedig i’r rheoliadau Treth y Cyngor a fydd yn  cael gwared ar y risg y gallai pobl sy’n gadael gofal fod yn gyfrifol am dalu Treth y Cyngor os yw unigolyn arall yn yr aelwyd yn methu â thalu Treth y Cyngor.

“Bydd y newidiadau arfaethedig yn sicrhau bod pobl sy'n gadael gofal yn Sir y Fflint yn parhau i dderbyn cymorth drwy’r system Treth y Cyngor fel rhan o’r pontio i oedolaeth a byw'n annibynnol.”

Disgwylir i'r newidiadau arfaethedig ddod i rym fis Ebrill 2022.