Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Treth y Cyngor – Ail Gartrefi a Llety Hunanddarpar

Published: 13/10/2021

Yn ddiweddarach fis yma bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gefnogi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch newidiadau posibl i’r system drethu lleol, gyda’r nod o gefnogi awdurdodau lleol i reoli effaith ail gartrefi a llety hunanddarpar ar gymunedau.  

Yn 2017 y Cyngor oedd un o’r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu Cynllun Premiwm Treth y Cyngor. Mae’r cynllun yn darparu mecanwaith pwysig i annog perchnogion ail gartrefi ac eiddo gwag i wneud yn siwr bod yr eiddo yn cael ei ddefnyddio unwaith eto. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dymuno derbyn barn y Cabinet ar drefniadau trethu lleol i’r dyfodol, ar gyfer perchnogion llety hunanddarpar a all fod yn agored i dalu Treth y Cyngor neu gyfraddau busnes yn dibynnu ar ddefnydd y llety.  

Meddai Gareth Owens, y Prif Swyddog Llywodraethu: 

“Mae pryderon cynyddol ar draws Cymru ynghylch y ffordd y mae perchnogion llety hunanddarpar yn gallu newid yn rhwydd o dalu Treth y Cyngor i dalu Trethi Busnes, gan olygu nad yw rhai perchnogion yn gorfod talu unrhyw dreth yn lleol. 

Er nad yw’r broblem mor amlwg yma yn Sir y Fflint o gymharu ag awdurdodau lleol eraill, mae yna 78 o fusnesau hunanddarpar yn y sir sy’n gweithredu o eiddo preswyl a all fod wedi newid i’r system Trethi Busnes ar ôl bod ag atebolrwydd i dalu Treth y Cyngor – mae hyn hefyd yn lleihau nifer yr eiddo preswyl sydd ar gael.  

I wella’r system rydym ni’n credu y dylai Llywodraeth Cymru gryfhau’r rheolau trethu lleol ar unwaith, drwy fabwysiadu rheolau trethi’r DU a CThEM ar gyfer eiddo sy’n lletyau hunanddarpar masnachol ac yn talu Trethi Busnes. 

Rydym ni hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwil pellach i asesu effaith busnesau hunanddarpar sy’n gweithredu o eiddo preswyl, sy’n derbyn Rhyddhad Ardrethi Busnes o 100% yn awtomatig ac felly ddim yn talu unrhyw fath o dreth yn lleol i’r Cyngor.”

Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau:

“Rydym ni’n credu bod cadw'r Cynllun Premiwm Treth y Cyngor yn hanfodol i fynd i’r afael â materion tai lleol ond nid ydym ni’n credu bod angen premiwm uwch na 100%.

Ni ddylid clustnodi incwm ychwanegol a gynhyrchir drwy’r cynllun hwn ar gyfer tai yn unig, mae arnom ni eisiau ymreolaeth a hyblygrwydd i ddefnyddio’r incwm i gefnogi blaenoriaethau sy’n newid ac i leddfu pwysau ar draws y Cyngor.”