Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant Ffair Swyddi Parc Brychdyn

Published: 21/10/2021

Mynychodd dros 600 o bobl ffair swyddi Parc Brychdyn a gynhaliwyd yn y parc manwerthu ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn, 8 a 9 Hydref.

Trefnwyd y digwyddiad gan Gymunedau dros Waith mewn cydweithrediad â’r Ganolfan Waith a Mwy a Gyrfa Cymru.  Nod y Ffair Swyddi oedd cynnig cefnogaeth a chyngor i oedolion a phobl ifanc sy’n chwilio am waith yn y sector manwerthu a lletygarwch ac roedd yn gydweithrediad llwyddiannus unwaith eto. 

Roedd 15 o stondinau yn y digwyddiad yn cynnwys cyflogwyr gyda 200 o swyddi gwag ar gael yn cynnwys y cwmni cadwyn newydd, Tim Hortons sydd ar fin agor ym mis Rhagfyr, Frankie & Benny’s, Primark, Next, Boots, Hays Travel, The Entertainer, Tesco a Homesense. 

Mae Cymunedau dros Waith ar gael i gynnig cefnogaeth gyffredinol i unrhyw un sydd eisiau cyflogaeth a chofrestru i’r rhaglen.

Roedd adborth gan yr holl fanwerthwyr, mynychwyr a Rheolwr Canolfan Parc Brychdyn yn gadarnhaol iawn gyda’r safon o ran ymgeiswyr a’r lefel o ymrwymiad yn uchel iawn.  Roedd y cyfle i drafod yn uniongyrchol â chyflogwyr ar sail un i un yn ddefnyddiol iawn gyda rhai ymgeiswyr yn cael eu galw am gyfweliad ar unwaith.

Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad hwn mae Cymunedau dros Waith wedi trefnu ffair swyddi arall ar ddydd Mawrth, 9 Tachwedd rhwng 10am a 2pm yn Nhy Calon, Ffordd Ddwyrain Caer, Queensferry, CH5 1SE. 

Bydd yn cynnwys cyflogwyr lleol eraill o sectorau eraill ac nid manwerthu yn unig.  Rhagor o fanylion i ddilyn ond rydym yn annog unrhyw un sy’n chwilio am waith i weld yr hyn sydd ganddyn nhw i’w gynnig.

Os hoffech ragor o wybodaeth ynglyn â’r rhaglen Cymunedau dros Waith yn Sir y Fflint cysylltwch â nia.parry@flintshire.gov.uk neu Janiene.davies@flintshire.gov.uk.