Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Miliynau o gynnyrch tybaco anghyfreithlon yn cael eu hatafaelu fel rhan o'r gwaith i fynd i'r afael â masnachu tybaco anghyfreithlon 

Published: 21/10/2021

Trading Standards.jpgMae dros bum miliwn o sigaréts anghyfreithlon wedi'u hatafaelu o leoliadau manwerthu lleol yn y chwe mis cyntaf o’r flwyddyn fel rhan o Ymgyrch CeCe, ymgyrch ar y cyd rhwng Safonau Masnach Cenedlaethol a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) i fynd i'r afael â gwerthu tybaco anghyfreithlon. 

Mae’r cynnyrch anghyfreithlon hefyd yn cynnwys dros 1,700kg o dybaco rowlio a 66kg o shisha. I gyd, mae dros £2.7miliwn o bunnoedd o gynnyrch tybaco anghyfreithlon wedi’i waredu o'r strydoedd ledled Cymru a Lloegr ers lansio'r ymgyrch ym mis Ionawr 2021. 

Mae Ymgyrch CeCe yn rhan o strategaeth ehangach y llywodraeth i atal pob agwedd o'r farchnad tybaco anghyfreithlon, o fan-werthwyr rheng flaen i Grwpiau Troseddol byd-eang sy'n cymell masnachu anghyfreithlon, gan smyglo tybaco’n rhyngwladol ar raddfa fawr. Mae’r strategaeth yn cynnwys mynd i'r afael â'r ffrydiau cyflenwi drwy gau ffatrïoedd anghyfreithlon, atal cynnyrch ac arian parod sy'n cael ei smyglo ar y ffin ac atal yr unigolion sy'n gwerthu cynnyrch mewn siopau a marchnadoedd. Cyflawnir y cyfan drwy weithio’n agos gyda'r rhai sy’n gorfodi'r gyfraith a phartneriaid eraill. 

Ar lefel leol mae NTS yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol i gynorthwyo i ganfod tybaco anghyfreithlon, safonau masnach yn atafaelu cynnyrch tybaco anghyfreithlon a phrofi gweithgarwch prynu i dargedu’r rhai sy’n cyflenwi'r cynnyrch.

Dywedodd Wendy Martin, Cyfarwyddwr, Safonau Masnach Cenedlaethol:

“Mae Ymgyrch CeCe yn ceisio diogelu cymunedau lleol rhag niwed o ganlyniad i fasnachu tybaco anghyfreithlon. Y tu hwnt i effaith sylweddol tybaco ar iechyd pobl, mae masnachu tybaco anghyfreithlon yn aml yn rhan o weithgarwch troseddol gan gynnwys smyglo cyffuriau, masnachu mewn pobl a chynhyrchu alcohol a DVD anghyfreithlon. Mae pris gwerthu bwriedig sigaréts sy'n cael eu hatafaelu yn aml yn hanner cost y tybaco cyfreithlon. Mae hyn nid yn unig yn tanseilio'r gwaith i leihau nifer yr unigolion sy'n ysmygu ond mae hefyd yn effeithio ar fusnesau cyfreithlon. 

 “Mae'r ymgyrch yn nodi'r cydweithrediad cyntaf rhwng Safonau Masnach Cenedlaethol a HMRC, ac rwy'n falch bod y chwe mis cyntaf wedi bod yn hynod lwyddiannus er mwyn gwaredu cyfran sylweddol o gynnyrch tybaco anghyfreithlon oddi ar ein strydoedd ac atal y rhai sy'n masnachu’n anghyfreithlon.”

Dywedodd Simon York, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Ymchwilio Twyll, HMRC:

“Mae Ymgyrch CeCe yn dangos ein hymrwymiad i fynd i'r afael â bygythiad tybaco anghyfreithlon. Mae’n fasnach sy'n costio oddeutu £2.3 biliwn y flwyddyn i drethdalwyr y DU, gan danseilio ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol a thalu am nifer o droseddau eraill sy'n niweidio cymunedau, gan gynnwys gynnau, cyffuriau a masnachu mewn pobl. 

“Mae’r rhai sy’n masnachu yn tanseilio busnesau cyfreithlon ac nid ydynt yn poeni pwy yw eu cwsmeriaid, gan gynnwys plant. Mae HMRC a Safonau Masnach yn benderfynol o atal masnachu tybaco anghyfreithlon, fel y dengys y canlyniadau hyn".

Mae HMRC yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am werthu tybaco'n anghyfreithlon i roi gwybod amdano ar-lein neu drwy ffonio’r Llinell Dwyll ar 0800 788 887.