Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith Paratoi yn erbyn Llifogydd yn Sandycroft

Published: 22/10/2021

Ers i gymunedau yn Sir y Fflint deimlo effaith Storm Christoph, mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio gydag asiantaethau cyfrifol eraill, sef Dwr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, i sicrhau bod y systemau draenio sy’n gwasanaethu’r ardaloedd hyn yn gweithio’n iawn ac yn cael eu cynnal.

Mae gwaith parhaus wedi ei gynnal ers dechrau’r gwanwyn yn ardal Sandycroft yn benodol i wneud yn siwr fod y systemau draenio priodol yn yr ardal wedi cael eu gwirio a’u cynnal er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio i’w llawn botensial.

Mae elfen olaf y gwaith hwn, a’r un fwyaf arwyddocaol, ar fin cychwyn gan fod y Cyngor wedi bod yn cydweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cynorthwyo i ddatblygu rhaglen waith i lanhau a chynnal y brif afon a elwir yn Ddraen Gogleddol Pentre. Mae hyn yn cynnwys archwilio a glanhau hyd sylweddol o geuffosydd y cwrs dwr o dan Ffordd Caer (tua 1000 metr o geuffosydd) yn ogystal â gwaith tebyg i glirio rhannau ffosydd agored y brif afon.

Mae’r gwaith paratoi gan Gyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi dechrau, gyda gwaith wedi ei wneud dros yr wythnos ddiwethaf i glirio llystyfiant ger rhannau’r ffosydd agored. Yna bydd y ffosydd yn cael eu clirio dros yr wythnosau nesaf a daw contractwyr arbenigol i weithio ar geuffosydd Draen Gogleddol Pentre.

Disgwylir i’r gwaith hwn gymryd rhwng 4 a 6 wythnos a gallai hyn amharu rhywfaint ar y traffig yn lleol gan y bydd angen rheoli’r traffig ar Ffordd Caer er mwyn sicrhau amodau gwaith diogel. 

Dywedodd y Cynghorydd Christopher Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd:

 “Mae’r gwaith hwn yn nodi’r cam olaf pwysig yn y gwaith a wneir ar y cyd rhwng y Cyngor a’r asiantaethau eraill i sicrhau bod y systemau draenio yn yr ardal hon yn gweithio’n iawn, er mwyn sicrhau bod gan y gymuned gymaint o amddiffyniad â phosibl rhag llifogydd, wrth i dymor y gaeaf agosáu.”