Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Peidiwch â chael eich perswadio i adael i rywun glirio eich rheiddiaduron

Published: 25/10/2021

radiator.jpg

Mae Safonau Masnach yn rhybuddio deiliaid tai yn dilyn cyfres o gwynion lle bo galwyr digroeso wedi galw a pherswadio deiliaid tai i glirio eu rheiddiaduron gyda'r costau'n amrywio o £1300 i £1500. 

Mewn un achos roedd gan un deiliad ty gontract gwasanaeth eisoes ac roedd yn hynod annhebygol y byddai’r gwaith ychwanegol hyn yn angenrheidiol.

Os yw rhywun yn cysylltu â chi, byddwch yn ofalus. 

• A oes wir angen clirio eich rheiddiaduron? 

• A yw’r pris yn rhesymol? 

Y cyngor gan Safonau Masnach yw na ddylid gwneud busnes gyda galwyr digroeso. Os oes angen cyflawni gwaith yn eich eiddo, dylid ceisio dyfynbrisiau gan fusnesau cyfrifol. 

Os nad ydych yn sicr pwy y dylid eu defnyddio gofynnwch am gymorth neu argymhellion gan deulu neu ffrindiau. Dylid ceisio manylion llawn y busnes gan gynnwys enw a chyfeiriad. Os yw’r busnes yn gwneud gwaith arbenigol ar systemau gwres canolog neu drydan dylid sicrhau eu bod yn gymwys ac wedi derbyn achrediad. 

Cadwch olwg ar ran unrhyw un sy’n ddiamddiffyn, ffrindiau, teulu neu gymdogion. 

I gael cyngor neu i roi gwybod am ddigwyddiad ffoniwch Gwasanaethau Cwsmer Cyngor ar Bopeth 0808 223 1144 (1133 ar gyfer gwasanaeth yn Saesneg).