Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn croesawu pleidlais o hyder Llywodraeth y DU yng Nghonsortiwm HyNet

Published: 28/10/2021

MDA.jpgMae Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn croesawu pleidlais o hyder Llywodraeth y DU yng Nghonsortiwm HyNet Mersi a’r Ddyfrdwy gyda dyfarniad Cyllid Dilyniannu Clwstwr Trac 1 ar gyfer seilwaith Dal a Storio Carbon a Storio Tan Ddaear (CCUS). Bydd gweithredu CCUS o 2025 yn diogelu dyfodol miloedd o swyddi gweithgynhyrchu gwerth uchel yn ardaloedd Mersi a’r Ddyfrdwy ac ardaloedd economaidd cysylltiedig yng Ngogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr.

Cyngh Mark Pritchard, Cadeirydd Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy:

“Mae dyfarnu statws Clwstwr Diwydiannol Trac 1 yn newyddion gwych i economi drawsffiniol integredig ardal Mersi a’r Ddyfrdwy.

"Ffurfiodd Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy bartneriaeth gyda HyNet i sicrhau bod ardal Mersi a’r Ddyfrdwy’n dod yn grud i chwyldro diwydiannol gwyrdd y DU. Mae cyllid Trac 1 yn ein rhoi ar ben ffordd i fabwysiadu prosesau diwydiannol sero-net yn gynnar. Bydd yn sicrhau miloedd o swyddi cyfredol sy’n talu’n dda yn y sector gweithgynhyrchu uwch ac yn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd drwy ddechrau’r broses o dorri allyriadau carbon i sero drwy CCUS a newid tanwydd diwydiannol i hydrogen.

"Bydd Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy’n gweithio gyda HyNet i ddatblygu cadwyn gyflenwi hydrogen a CCUS flaenllaw yn ardal Mersi a’r Ddyfrdwy. Mae HyNet yn amcangyfrif y bydd ei fuddsoddiad yn y seilwaith CCUS  hydrogen yn creu 6000 o swyddi newydd. Bydd statws Clwstwr Trac 1 yn ychwanegu momentwm i’n cynlluniau i ddatblygu cyfleuster arddangoswr cyfarpar hydrogen ym Mharc Gwyddoniaeth Thornton gyda chyllid “dechrau busnes” o Raglen Adfer arfaethedig Drawsffiniol Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy.

"Rwy’n credu bod y cyhoeddiad hwn yn cryfhau’r undeb oherwydd bydd HyNet yn brosiect trawsffiniol a fydd o fudd i Ogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr.”

Dywedodd y Cyngh Stuart Whittingham, is-gadeirydd Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy:

“Mae dyfarnu Cyllid Clwstwr Trac 1 yn dystiolaeth o sut mae gwaith partneriaeth trawsffiniol a thrawsbleidiol yn sicrhau canlyniadau. Mae’r Gynghrair wedi gweithio’n agos â HyNet, Rhanbarth Dinas Lerpwl, Arweinwyr Busnes, Llywodraeth Cymru ac Aelodau Seneddol lleol ledled y Gogledd ac ardal Mersi a’r Ddyfrdwy i hyrwyddo gweithredu CCUS a chyflenwad hydrogen yn gynnar yng Ngogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru gan HyNet.”

Dywedodd y Cyngh Louise Gittins, Arweinydd Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer:

“Rwy’n eithriadol falch fod HyNet wedi cael cyllid Clwstwr Trac 1. Mae’r newyddion hwn yn ffordd wych i ni fynd i COP26 a dechrau ar y broses o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd mewn ffordd ymarferol sy’n cadw swyddi traddodiadol ac yn creu rhai newydd mewn cadwyni cyflenwi ynni newydd. Dim ond un blaned sydd gennym ni. Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi cyfle i ardal Mersi a’r Ddyfrdwy leihau allyriadau carbon yn sylweddol i osgoi trychineb hinsawdd.

"Bydd ardal Mersi a’r Ddyfrdwy’n sicrhau manteision amgylcheddol sylweddol o fod yn arweinydd ym maes datblygu CCUS a chynhyrchu ynni hydrogen. Mae’r penderfyniad yn cydnabod anghenion busnesau am fathau newydd o danwydd a seilwaith dal a storio carbon yn ein hardal, lle mae allyriadau carbon y pen bedair gwaith yn uwch na chyfartaledd y DU.”

Dywedodd y Cyngh Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:

“Mae hwn yn newyddion gwych i Gymru a’r Gogledd yn arbennig. Bydd HyNet yn darparu CCUS ac ynni hydrogen ar gyfer newid tanwydd diwydiannol ac ynni domestig yn y Gogledd. Bydd cwmnïau lleol fel Hanson ac Essar yn elwa’n aruthrol ar fabwysiadu CCUS yn gynnar yn economi Mersi a’r Ddyfrdwy.

"Bydd HyNet yn gallu gwneud cyfraniad sylweddol i gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer “economi hydrogen” yng Nghymru. Bydd yna fanteision ar gyfer datgarboneiddio cludiant nwyddau trwm drwy ddefnyddio tanwydd hydrogen a phrosiectau lleol ategol fel Hyb Hydrogen Glannau Dyfrdwy."

Dywedodd Ashley Rogers, Cyfarwyddwr Masnachol Cyngor Busnes Mersi a’r Ddyfrdwy Gogledd Cymru:

“Mae hwn yn newyddion rhagorol ar gyfer yr ardal drawsffiniol a Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr yn ehangach. Mae hydrogen carbon isel yn elfen hanfodol yn y daith at sero-net i’n busnesau, yn fach a mawr. Gyda’r cyllid hwn gan Lywodraeth y DU bydd HyNet yn cyflawni rôl arweiniol gan helpu i ddatgarboneiddio cynhyrchiant ynni, gwresogi, trafnidiaeth a’r ystâd Sector Preifat yn ein hardal er budd ein heconomi, ein cymunedau a’r amgylchedd.”

Dywedodd Dr. James Davies AS, (Dyffryn Clwyd), Cadeirydd Grwp Seneddol Hollbleidiol Mersi a’r Ddyfrdwy a Gogledd Cymru yn San Steffan:

“Rwy’n hynod o falch o glywed bod HyNet wedi ei gyhoeddi fel clwstwr Trac 1 ac y bydd yn derbyn cyllid gan Lywodraeth y DU. Bydd datblygiad cynaliadwy y prosiect hwn yn creu miloedd o swyddi ac yn helpu i hyrwyddo’r Gogledd fel canolfan ar gyfer arloesi ym maes ynni glân. Mor fuan â 2025, bydd y prosiect yn galluogi ein sector gweithgynhyrchu ar draws y rhanbarth i ddatgarboneiddio, yn ogystal â rhoi’r cyfle i newid y ffordd rydym yn teithio a sut rydym yn gwresogi ein cartrefi. Byddaf yn parhau i gefnogi HyNet yn eu trafodaethau â Llywodraeth y DU ac yn edrych ymlaen at newyddion cadarnhaol pellach yn y blynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Justin Madders AS (Ellesmere Port), Is-gadeirydd Grwp Seneddol Hollbleidiol Mersi a’r Ddyfrdwy a Gogledd Cymru:

“Mae hwn yn newyddion gwych i Ellesmere Port a’r cyffiniau. Bydd buddsoddiad cynnar sicr yn cyfrannu’n sylweddol at ein huchelgais i leihau allyriadau carbon, at ddiogelu’r rhai mewn swyddi medrus iawn mewn diwydiant lleol ac i greu swyddi newydd yn y sector cynhyrchu ynni glân.”