Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad #COPCymru ar gyfer Gogledd Cymru

Published: 29/10/2021

AdobeStock_53705917-consult waste.jpg

Mae #COPCymru yn gyfle i helpu i lunio dyfodol Cymru. Gyda chyfres o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yng Nghymru rhwng 28 Hydref a 26 Tachwedd, mae gennym i gyd gyfle i ymgysylltu â sgyrsiau pwysig am newid hinsawdd a sut gellir defnyddio ein hadferiad o COVID-19 i gyflymu camau gweithredu a helpu Cymru i adeiladu economi carbon isel gref.

Bydd Gogledd Cymru yn cynnal ei ddigwyddiad ei hun ar 4 Tachwedd ar thema ‘trawsnewid ynni’. Bydd cyfle i arddangos arloesedd, meddwl blaengar, cydweithio a phrosiectau a gaiff eu harwain gan y gymuned – mae’r rhaglen dros y we yn llawn dop. 

Dan arweiniad y cyflwynydd, Sian Lloyd, bydd siaradwyr o bob cwr o’r rhanbarth yn canolbwyntio ar lwyddiant a heriau prosiectau carbon isel gan gynnwys hydrogen, ynni'r môr a gwyddorau Cymru. 

Mae ffermydd solar Sir y Fflint yn enghreifftiau gwych o gamau gweithredu go iawn gan awdurdodau lleol, er gwaethaf blaenoriaethau sy’n cystadlu, pwysau cyllidebol, a phandemig byd-eang – gan arddangos arweinyddiaeth a chefnogi datgarboneiddio grid.

Caiff y digwyddiad ei ddarlledu’n fyw ac mae modd cofrestru a gweld dadansoddiad llawn o’r digwyddiadau trwy ddilyn y ddolen hon https://freshwater.eventscase.com/EN/COPCymru21

Mae’r digwyddiadau eraill yn cynnwys:

  • Sioeau Teithiol Rhanbarthol COP26:
    • 4 Tachwedd – Trawsnewid Ynni (Gogledd Cymru)
    • 6 Tachwedd – Natur (Canolbarth Cymru)
    • 8 Tachwedd – Ymaddasu a Chadernid (De-Orllewin Cymru)
    • 10 Tachwedd – Cludiant Glân (De-Ddwyrain Cymru)
  • Wythnos yr Hinsawdd Cymru, 22 i 26 Tachwedd 2021.