Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae arnom angen eich barn ar y fersiwn ddiweddaraf o Strategaeth Ddigidol Sir y Fflint

Published: 01/11/2021

2122-14804 Interactive Digital Strategy Engagement WELSH-1.jpg

Mae Cyngor Sir Y Fflint yn gwahodd preswylwyr lleol i leisio eu barn am ein Strategaeth Ddigidol newydd ac arloesol – gan adeiladu ar ein cyflawniadau cadarnhaol hyd yma ar ein taith ddigidol. 

Mae’r Strategaeth wedi cael ei diweddaru i adlewyrchu ein cynlluniau uchelgeisiol ac rydym wedi datblygu fersiwn ryngweithiol o’r strategaeth i chi ei hadolygu cyn i chi roi eich adborth i ni.  Gellir ei gweld yma.  Os hoffech adolygu’r ddogfen strategaeth lawn, mae copi i’w weld ein tudalen we Strategaeth Ddigidol.

Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ar 1 Tachwedd a bydd yn dod i ben am hanner nos ddydd Llun 31 Ionawr 2022. Mae’r arolwg ar gael ar-lein yma

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau: 

 “Rwyf yn falch ein bod yn symud ymlaen â’n rhaglen ddigidol, gan ddod â’n preswylwyr gyda ni ar y daith gyffrous hon.  Mae hwn yn gynllun uchelgeisiol sy’n nodi sut y byddwn yn gwella ac yn symleiddio ein gwasanaethau. 

 “Nid yw hyn yn ymwneud â gwneud mwy o wasanaethau ar gael ar-lein yn unig, mae’n ymwneud â newid y ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau i roi’r profiad gorau i bawb.  Mae hyn yn cynnwys dod â phreswylwyr sydd wedi’u heithrio’n ddigidol gyda ni.    Fe aethom ati i lansio ein Canolbwynt Digidol Sir y Fflint newydd ym mis Awst oherwydd rydym eisiau i bawb gael blas ar bwer y byd digidol  - i wella potensial a thwf y Sir ac atal arwahanrwydd cymdeithasol.”  

Os na allwch chi gael mynediad i’r dogfennau ar-lein, gallwch ymweld ag un o’n Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu, neu lyfrgell leol a defnyddio cyfrifiadur cyhoeddus yn rhad ac am ddim i weld y strategaeth a llenwi’r arolwg.  Mae staff yn ein Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu hefyd ar gael i’ch cefnogi i lenwi’r arolwg ar-lein os bydd angen help arnoch.