Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn i roi diwedd ar drais dynion yn erbyn merched

Published: 25/11/2021

Mae Cyngor Sir y Fflint unwaith eto wedi dangos ei gefnogaeth i Ymgyrch y Rhuban Gwyn i roi diwedd ar drais yn erbyn merched.

Nodir Diwrnod y Rhuban Gwyn ledled y byd, a dyma’r fenter fyd-eang fwyaf i roi diwedd ar drais dynion yn erbyn merched drwy alw ar ddynion i gymryd camau i wneud gwahaniaeth.

Mae Aelodau a swyddogion Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gwisgo rhubanau gwyn i godi ymwybyddiaeth am yr ymgyrch sy’n ceisio cael gwared ar bob math o drais yn erbyn merched, ac fe ddaethon nhw ynghyd yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug heddiw i godi baner mewn cefnogaeth.  Drwy wisgo rhuban gwyn rydych yn gwneud addewid na wnewch chi byth gyflawni, esgusodi na chadw’n dawel am drais dynion yn erbyn merched.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Sir y Fflint:

“Mae'r Cenhedloedd Unedig yn cydnabod 25 Tachwedd yn swyddogol fel Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Merched. Mae'r Rhuban Gwyn yn symbol o obaith am fyd lle gall merched a genethod fyw heb ofni trais. Mae gwisgo rhuban gwyn yn ffordd wych o ddangos cefnogaeth i’r ymgyrch hon.

“Mae Sir y Fflint wedi bod yn cefnogi’r achos yn frwd ers blynyddoedd lawer, ac wedi derbyn canmoliaeth gan Ymgyrch y Rhuban Gwyn am y gwaith a wnawn. Mae’n bwysig ein bod ni fel sefydliad yn helpu i godi ymwybyddiaeth drwy ddangos ein hymrwymiad a chefnogi gweithgareddau yn ystod yr adeg bwysig hon o’r flwyddyn."

I gael rhagor o fanylion am yr ymgyrch, neu i ddangos eich cefnogaeth, dilynwch y ddolen ganlynol:  whiteribboncampaign.co.uk.

Os ydych chi wedi dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol, ffoniwch Linell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800.

Dilynwch White Ribbon UK ar twitter: @WhiteRibbon_UK

 

white ribbon-3.jpg     

white ribbon-4.jpg

 

white ribbon-6.jpg White ribbon - Aura and IYP.jpg