Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Menter Gymdeithasol o Sir y Fflint sydd wedi ennill gwobrau yn ehangu mewn i Wrecsam

Published: 09/11/2021

Ar ôl pum mlynedd llwyddiannus o fasnachu, mae menter gymdeithasol sy’n seiliedig yn Sir y Fflint wedi ehangu mewn i Wrecsam. 

Mae Cwmni Buddiannau Cymdeithasol Beyond the Boundaries, a enillodd Wobr Aur City and Guilds am hyfforddiant, wedi cael gwahoddiad i atgynhyrchu eu gwasanaethau yn Wrecsam. Mae Partneriaeth Parc Caia wedi gwahodd Jill i agor salon yn eu hadeilad ym Mharc Caia. Mae’r gwaith o baratoi’r salon bwrpasol bellach wedi cael ei gwblhau a bydd yn cael ei agor yn swyddogol ar 9 Tachwedd. 

Mae Cwmni Buddiannau Cymunedol Beyond the Boundaries yn rhedeg salon gwallt a harddwch gwahanol. Cafodd ei ddatblygu’n arbennig gan Jill Smith, i greu lleoliadau gwaith ystyrlon mewn amgylchedd gwaith go iawn i bobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol.

Mae’r triniaethau sydd ar gael i aelodau’r cyhoedd, am hanner pris y farchnad er mwyn adlewyrchu’r ffaith bod y staff yn cael eu hyfforddi, yn cynnwys; trin gwallt, tyliniad Swedaidd, aromatherapi, tylino pen yn y dull Indiaidd, tyliniad cerrig poeth, triniaeth i’r dwylo a thraed, estheteg, triniaethau i’r amrannau a thylino babanod. 

Mae’r bobl ifanc sydd yn mynychu Beyond the Boundaries yn cael cyfle i ennill sgiliau a gwaith a bywyd a chymwysterau achrededig yn ogystal â sgiliau byw'n annibynnol trosglwyddadwy i wella ansawdd eu bywyd yn ogystal â chael gwaith cyflogadwy. 

Gyda hanes blaenorol gwych o weithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau a sefydliadau megis Cymunedau am Waith, Adran Gwaith a Phensiynau, Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint a phartneriaid trydydd sector, mae chwech o’r rhai fuodd yn gweithio gyda Jill wedi mynd ymlaen i gael cyflogaeth am dâl. 

Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint:

“Mae gennym ni economi gymdeithasol sy’n ffynnu yma yn Sir y Fflint, ac rydym ni’n falch iawn o hynny. Mae’n wych gweld y modelau o arfer orau sy’n cael eu datblygu yn Sir y Fflint yn cael eu mabwysiadu gan siroedd cyfagos.” 

Er mwyn cyd-fynd â Diwrnod Menter Gymdeithasol genedlaethol, mae Beyond the Boundareis yn arddangos eu gwasanaethau mewn digwyddiad yn Nhy Calon, Chester Road West (gyferbyn â Chanolfan hamdden Glannau Dyfrdwy) ar 11 Tachwedd, lle byddant yn lansio hyfforddiant am ddim wedi’i anelu at gefnogi pobl i ddatblygu’r sgiliau i ymuno â’r farchnad swyddi. 

Mae Beyond the Boundaries wedi creu gwefan newydd hefyd sydd yn rhoi cyfle i bobl archebu lle ar gyrsiau yn ogystal â thriniaethau harddwch trainingbeyondtheboundaries.co.uk.