Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


B5129 Ffordd Caer Dwyrain – Cylchfan Queensferry i Oleuadau Traffig Makro – Gwaith Wynebu’r Ffordd Gerbydau

Published: 16/11/2021

roadworks_SMALL.jpgEr mwyn caniatáu i waith wynebu gael ei wneud bydd y B5129 ar gau o'i gyffordd â chylchfan Queensferry i oleuadau traffig Makro dros nos am y cyfnodau canlynol:

Dydd Mercher  24 Tachwedd 19:00 i ddydd Iau 25 Tachwedd 07:00

Dydd Iau 25 Tachwedd 19:00 i ddydd Gwener 26 Tachwedd 07:00

Dydd Gwener 26 Tachwedd 19:00 i ddydd  Sadwrn 27 Tachwedd 07:00

Dydd Llun 29 Tachwedd 19:00 i ddydd Mawrth 30 Tachwedd 07:00

Yn ystod y cyfnod hwn yn ystod y dydd (07:01 i 18:59) bydd y B5129 Ffordd Caer yn dychwelyd i draffig dwy ffordd arferol o dan gyfyngiad cyflymder o 10 mya.

Bydd y ffordd ar gau i sicrhau diogelwch y gweithlu sy'n gwneud y gwaith a defnyddiwr y briffordd.

Hoffem ddiolch i chi ymlaen llaw am eich cydweithrediad yn ystod y gwaith hwn a'ch sicrhau y byddwn yn gweithio'n agos gyda chi i sicrhau bod unrhyw aflonyddwch yn cael ei gadw i'r lleiafswm posibl.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r gwaith uchod, cysylltwch â Chyngor Sir y Fflint; Strydwedd a Chludiant ar 01352 701234.