Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygiad Archwilio Cymru o Adfywio Canol Trefi

Published: 15/11/2021

Bydd aelodau’r Cabinet yn derbyn adolygiad Archwilio Cymru o Adfywio Canol Trefi wrth gyfarfod yn nes ymlaen yn y mis. Bydd gofyn iddynt nodi’r argymhellion a chymeradwyo’r ymatebion i Archwilio Cymru.

Cyhoeddodd Archwilio Cymru adolygiad o adfywio canol trefi ym mis Medi 2021. Mae’n crynhoi’r pwysau a’r tueddiadau sy’n wynebu canol trefi yng Nghymru a’r camau mae’r sector cyhoeddus wedi’u cymryd hyd yma i weithredu. Mae hefyd yn cynnwys argymhellion ar gyfer pob lefel o Lywodraeth, ac mae Archwilio Cymru wedi gofyn i awdurdodau lleol adolygu’r rheiny ac ymateb.

Yn fras, y chwe argymhelliad yw bod:

  1. Llywodraeth Cymru (LlC) yn adolygu trethi annomestig i sicrhau bod y system yn adlewyrchu cyflwr canol trefi’n well.
  2. LlC yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol i adolygu heriau cludiant (gan gynnwys ffioedd parcio) sy’n wynebu canol trefi.
  3. LlC yn cryfhau cynlluniau ariannu i leihau biwrocratiaeth trwy symleiddio prosesau a sicrhau cydbwysedd buddsoddi i helpu cynghorau i fynd i’r afael â diffyg staff a sgiliau.
  4. Cynghorau’n defnyddio adnoddau a phwerau gorfodi sy’n bodoli eisoes i wneud gwell defnydd o sgiliau ac adnoddau sydd ar gael i gael canlyniadau da.
  5. LlC yn nodi sut mae’n bwriadu cyflawni “Canol Trefi yn Gyntaf” yn ymarferol, ei disgwyliadau o bartneriaid a chamau ymarferol er mwyn gallu gwireddu hynny.
  6. Cynghorau, wrth i ganol trefi newid, yn hunanasesu eu dulliau ar hyn o bryd i ddod o hyd i’r gwelliannau sydd eu hangen.

Mae’r Cyngor wedi croesawu cyfle i ymateb i’r adolygiad ac wedi llunio ymatebion i argymhellion 2, 4 a 6 yn unol â’r cais i gyflwyno sylwadau arnynt. Rydym ni hefyd wedi nodi ein barn am yr argymhellion eraill.

Dywedodd y Cyng. Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint:

“Ar gyfer argymhelliad 2, mae teithio llesol ac opsiynau teithio cynaliadwy eisoes yn flaenoriaeth i ni wrth i ni geisio cynyddu faint sy’n cerdded a beicio a galluogi ffyrdd amgen a chynaliadwy o deithio.

“Byddem yn croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag eiddo gwag ac eiddo sy’n achosi problem. Mae’r pwerau gennym ni, ond mae angen llawer o amser ac arian i ymdrin â nhw.

“O ran argymhelliad 6, rydym ni eisoes wedi cynnal hunanasesiad, sydd wedi nodi nifer o feysydd i’w datblygu ymhellach. Mae rhai o’r rhain ar y gweill yn barod, yn cynnwys recriwtio staff i gyflawni’r amcanion.”