Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun ar gyfer Shotton

Published: 15/11/2021

Wrth gyfarfod ddydd Mawrth 16 Tachwedd, bydd gofyn i aelodau’r Cabinet gymeradwyo cynllun lefel uchel, “Cynllun ar gyfer Shotton”, i bennu cyfeiriad strategol ar gyfer gwaith yn Shotton o hyn tan 2030.  

Bydd y Cynllun fel catalydd i ymgysylltu’n ehangach â sefydliadau partner, y gymuned a budd-ddeiliaid eraill. 

Mae’n cwmpasu’r tair ward yn Shotton – y Dwyrain, Shotton Uchaf a’r Gorllewin – sy’n cynnwys y stryd fawr brysur a’r ardaloedd o’u hamgylch, sydd â chyfleusterau a chysylltiadau cludiant da, a chyfleoedd i ddatblygu yn y dyfodol. Mae Cynllun ar gyfer Shotton yn ceisio gwneud y mwyaf o’r asedau a’r cyfleoedd lleol hynny gan hefyd nodi, blaenoriaethu a mynd i’r afael â phryderon ac uchelgeisiau cymunedol. 

Dywedodd y Cyng. Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint:

“Y nod yw i Shotton fod yn lle mae pobl eisiau gweithio a byw ynddo ac ymweld ag o, lle mae trigolion lleol yn falch o’r ardal maent yn byw ynddi.

“Mae gan y Cynllun uchelgeisiol hwn bedwar prif amcan, sy’n canolbwyntio ar: wytnwch cymunedol; yr amgylchedd; atal, addysg a gorfodi; ac isadeiledd a buddsoddi.

“Mae rhywfaint o lwyddiant cynnar wedi bod yn barod, fel sicrhau cyllid i ddatblygu adeilad lleol i allu ei ddefnyddio unwaith eto fel siop bwyd cyflym iach, ac agor Canolbwynt Covid-19, sy’n darparu cymorth gwerthfawr i drigolion lleol.”

Hyd yma, mae’r gwaith wedi bod dan arweiniad Cyngor Sir y Fflint gyda chymorth gan Heddlu Gogledd Cymru a rhywfaint o gyfraniad gan asiantaethau partner eraill. Dros y misoedd nesaf, y bwriad yw cynllunio i ymgynghori ac ymgysylltu â budd-ddeiliaid allweddol yn ehangach, gan gynnwys y gymuned leol, fel y gallant helpu i siapio’r cynlluniau a fydd yn cyflawni’r pedwar prif amcan ar gyfer Shotton. 

Bydd gwaith ymgynghori ac ymgysylltu’n cychwyn yn 2022 a hynny drwy amrywiaeth o ddulliau, ar-lein ac fel arall, gyda’r nod o gyrraedd cymaint o bobl sydd â diddordeb â phosib’.