Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prosbectws Anghenion Tai Sir y Fflint

Published: 15/11/2021

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint nodi cynnwys y Prosbectws Anghenion Tai Sir y Fflint a rhoi unrhyw adborth neu sylwadau pan mae’n cyfarfod ddydd Mawrth, 16 Tachwedd.

Mae Llywodraeth Cymru (LlC) wedi gofyn i bob awdurdod lleol ddatblygu Prosbectws o Anghenion Tai. Bwriad y prosbectws yw:

  • darparu gwybodaeth i allu cyflenwi tai fforddiadwy fel y gall darparwyr tai droi at y prosbectws a chynllunio i ddarparu tai sy’n diwallu blaenoriaethau’r awdurdod lleol a’r angen am dai’n well ar gyfer yr ardal;
  • helpu i siapio rhaglen y Grant Tai Cymdeithasol trwy nodi beth yw blaenoriaethau pob awdurdod lleol; a 
  • darparu canllaw i LlC a phartneriaid tai ynglyn â’r math o dai fforddiadwy sydd ei angen yn y sir ac ymhle.

Ar gyfer 2021/22, dyraniad Sir y Fflint o’r Grant Tai Cymdeithasol yw £10,236,642, ac mae disgwyl dyraniad tebyg ar gyfer 2022/23. Mae hyn yn gynnydd sylweddol ar ddyraniad 2020/21 o £5.2 miliwn.

Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:

“Mae Prosbectws Anghenion Tai drafft Sir y Fflint wedi’i lunio ar y cyd â’r Gwasanaethau Cymdeithasol, y tîm Digartrefedd a Chynllunio ac mae’n adlewyrchu gofynion y Cyngor ar hyn o bryd ar wasanaethau a’r uchelgeisiau sydd yn Strategaeth Tai Sir y Fflint 2019-24.

“Rydyn ni’n bwriadu diweddaru’r prosbectws bob blwyddyn a bydd yn ddogfen hyblyg a fydd yn datblygu wrth i flaenoriaethau ac anghenion tai’r Cyngor newid.”

Roedd LlC yn gofyn i’r prosbectws gael ei gyflwyno erbyn 6 Awst ac fe ddarparwyd prosbectws drafft Sir y Fflint erbyn y dyddiad cau, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet.