Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhaglen Gyfalaf

Published: 15/11/2021

Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo nifer o gynlluniau sy’n ffurfio rhan o Raglen Gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2022/23 – 2024/25 pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth, 16 Tachwedd.

Mae’r Rhaglen Gyfalaf yn cynnwys buddsoddiadau mewn asedau ar gyfer y tymor hir er mwyn gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel sy’n rhoi gwerth am arian.  Mae’r asedau’n cynnwys adeiladau (fel ysgolion a chartrefi gofal), isadeiledd (fel priffyrdd, rhwydweithiau TG a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff), ac asedau nad ydynt yn perthyn i'r Cyngor (fel gwaith i wella ac addasu cartrefi'r sector preifat). Mae’r buddsoddiadau cyfalaf sy’n cael eu cynnig yn cyd-fynd â chynlluniau busnes gwasanaethau portffolios a Chynllun y Cyngor.

Mae’r adroddiad yn rhannu Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor yn dair rhan:

  1. Statudol / Rheoleiddiol – dyraniadau i dalu am waith rheoleiddiol a statudol, gan gynnwys y Ddeddf Cydraddoldeb – lle mae’r gyllideb angen cynyddu o £0.200 miliwn i £0.500 miliwn i barhau i wneud gwaith addasu ysgolion.
  2. Asedau wedi’u Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith isadeiledd sy’n angenrheidiol i sicrhau parhad gwasanaeth a busnes:
    1. Mae Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn gofyn bod cynnydd arfaethedig o 0.400 miliwn i £1 miliwn er mwyn helpu i gynnal perfformiad presennol y rhwydwaith.
    2. Isadeiledd TG: mae angen cynlluniau amrywiol i gynnal gwasanaeth a pharhad busnes a chefnogi Strategaeth Ddigidol y Cyngor.
  3. Buddsoddi – dyraniadau i ariannu’r gwaith angenrheidiol i ail-lunio gwasanaethau i wneud arbedion effeithlonrwydd sydd wedi’u nodi mewn cynlluniau busnes portffolios a buddsoddi mewn gwasanaethau fel y maent wedi’u cynnwys yng Nghynllun y Cyngor:
    1. cadwraeth adeiladau hanesyddol: Mae £50,000 y flwyddyn yn cael ei gynnig ar gyfer grantiau i berchnogion adeiladau hanesyddol i’w cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol;
    2. Addasiadau i gartrefi gofalwyr maeth er mwyn gallu darparu lle addas i gefnogi plentyn;
    3. Cyfleuster Archifau ar y cyd i Sir y Fflint a Sir Ddinbych – cyfleuster modern yn lle’r ddau gyfleuster presennol sy’n hen ac yn anaddas at eu pwrpas.

Mae cynlluniau buddsoddi newydd yn cael eu dwyn ymlaen i’w cymeradwyo, gan gynnwys:

• Estyniad i ysgol gynradd gymunedol Penyffordd

• Datgarboneiddio'r fflyd cerbydau

• Cartref Gofal Preswyl newydd Croes Atti

• Adleoli gwasanaeth dydd Tri-ffordd.

Dywedodd Paul Johnson, Aelod Cabinet Cyllid a Gwerth Cymdeithasol Sir y Fflint:

“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o raglen y Cyngor wedi’i hariannu o arian sy’n elw i’r Cyngor, ond mae’n mynd yn fwy anodd gwneud elw ac mae hwnnw bron wedi darfod. Fe fyddwn ni’n chwilio am asedau i’w gwerthu i helpu i ariannu’r Rhaglen Gyfalaf lle bo modd.”

Mae opsiynau i ariannu’r diffyg yn cynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau amgen a chyflawni cynlluniau mewn camau gan y gallai proffil gwariant prosiectau mawr cymhleth newid. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod ffynonellau eraill o gyllid yn cael eu defnyddio i ariannu’r rhaglen.

Er hynny, os na fydd ffynonellau eraill o gyllid ar gael, bydd angen i’r Cyngor fenthyca’n ddarbodus i ariannu’r bwlch. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Johnson:

“Rydym yn bwriadu gwneud y mwyaf o'r ffynonellau ariannu fel y soniwyd uchod, fel ein bod yn parhau i ddatblygu ein Rhaglen Gyfalaf uchelgeisiol.  Rydw i’n falch y byddwn ni’n gallu gwneud y gwelliannau yma yn ein hysgolion a’n cartrefi gofal, sy’n dangos bod Cyngor Sir y Fflint yn dal i fod yn un blaengar ac arloesol sy’n buddsoddi yn lles trigolion y Sir.”