Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Archwiliwch eich Archif

Published: 15/11/2016

“The March of Archery” – cipolwg ysgafn ar saethyddiaeth fel diddordeb elitaidd 1780 – 1900 gan Advolly Richmond. Fel rhan o’r ymgyrch genedlaethol Archwiliwch eich Archif (sy’n rhedeg rhwng 19 Tachwedd a 27 Tachwedd 2016) mae Swyddfa Gofnodion Sir y Fflint yn cynnal sgwrs ddiddorol â lluniau sef “The March of Archery” - cipolwg ysgafn ar saethyddiaeth fel diddordeb elitaidd 17800 – 1900 gan Advolly Richmond, Hanesydd Gerddi/ Tirlun a Chymdeithasol, Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru. Mae’r sgwrs, sydd am ddim, wedi ei selio ar weithgareddau Cymdeithas Frenhinol Saethwyr Prydain a’r ystadau ar teuluoedd amrywiol yn ardal Sir y Fflint a Swydd Amwythig / y Gororau. Mae’n gipolwg ysgafn ar saethyddiaeth fel math elitaidd o chwaraeon yn hwyr yn y G18 a drwy’r G19. Cychwynnodd Saethyddiaeth yn yr 1770au ond dim ond pobl gyfoethog iawn oedd yn gallu fforddio cymryd rhan yn y cyfarfodydd saethu dethol hyn. Byddai’r cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal ar ystadau’r bonedd, gyda hyd at 200 o westeion a saethwyr yn eistedd i lawr am ginio rhwng rowndiau. Roedd gan bob cymdeithas eu gwisg bwrpasol eu hunain. Bydd Advolly yn siarad am y teuluoedd oedd â thir a’u heiddo. Cynhelir y sgwrs yn Swyddfa Gofnodion Sir y Fflint ddydd Sadwrn 19 Tachwedd am 2pm. Mae’r sgwrs am ddim ond rhaid archebu lle gan mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, ffoniwch 01244 532364 neu anfonwch e-bost at archives@flintshire.gov.uk. Yn ystod yr wythnos Archwilio i gyd, mae Swyddfa Gofnodion Sir y Fflint yn cynnal arddangosfa yn dathlu trichanmlwyddiant Capability Brown (1716 – 2016). Gan gynnwys William Emes ai waith yng Ngogledd Cymru hefyd, rhoddwyd yr arddangosfa at ei gilydd gan Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru, gyda gwybodaeth ychwanegol am gysylltiad Penarlâg gan staff y Swyddfa Gofnodion. Nodiadau i olygyddion - Ymgyrch yw Archwiliwch eich Archifau sydd wedi ei chynllunio ar gyfer pob math o archifau drwyr DU ac Iwerddon. Caiff yr ymgyrch ei chydlynu gan Yr Archifau Gwladol a Chymdeithas Archifau a Chofnodion (DU ac Iwerddon). Eleni bydd y brif wythnos lansio ar gyfer Archwiliwch eich Archif yn rhedeg rhwng dydd Sadwrn 19 a dydd Sul 27 Tachwedd 2016.