Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cwestiynau Cyffredin am Streic Arriva

Published: 12/11/2021

Rydw i’n defnyddio gwasanaethau Arriva i deithio bob dydd, a fydd hyn yn effeithio ar fy nhrefniadau teithio?

Mae Arriva Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod yn gweithio’n galed i osgoi gweithredu diwydiannol ac, er eu bod yn parhau i gymryd rhan mewn trafodaethau gyda’u partneriaid yn yr undebau llafur a’u bod wedi ymrwymo i ddod i gytundeb, os na fydd hynny’n digwydd, bydd gyrwyr bysiau Arriva Cymru mewn sawl depo, yn cynnwys Amlwch, Bangor, Penarlâg (Caer), Llandudno, Rhyl a Wrecsam, yn mynd ar streic ddi-dor rhwng 0600 ddydd Sul 14 Tachwedd 2021 a 0100 ddydd Sul 19 Rhagfyr 2021.

Bydd y gweithredu diwydiannol yn effeithio ar holl wasanaethau bysiau Arriva yng Ngogledd Cymru a bydd angen i deithwyr sy’n talu am docyn wneud trefniadau amgen os na fydd eu gwasanaeth rheolaidd ar gael.  Ni fydd hyn yn effeithio ar wasanaethau sy’n cael eu gweithredu gan gwmnïau bysiau eraill a bydd y rheiny’n dal i fod ar gael fel arfer.

Mae fy mhlentyn yn gymwys i gael cludiant i'r ysgol, mae ganddo docyn Arriva ac mae’n teithio i’r ysgol a gartref ar wasanaeth Arriva, a fydd cludiant amgen yn cael ei ddarparu?

Rydym yn brysur yn cynllunio darpariaeth cludiant amgen i ddisgyblion ysgol cymwys. Byddwn yn cadarnhau trefniadau teithio amgen gyda’r rhieni a’r ysgolion y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw.

Gall rhieni plant cymwys sydd heb dderbyn cadarnhad am ddarpariaeth cludiant amgen gysylltu â school.transport@flintshire.gov.uk i gadarnhau trefniadau teithio.

Nid yw fy mhlentyn yn gymwys i gael cludiant i'r ysgol ac mae’n talu am docyn ar fws gwasanaeth Arriva i deithio i’r ysgol a gartref, a fydd darpariaeth amgen ar gael?

Na fydd, yn anffodus ni all y Cyngor gynnig darpariaeth cludiant amgen ar gyfer teithwyr sy’n talu am eu tocyn. I wneud hynny, byddai’n rhaid i’r Cyngor gofrestru’r daith fel gwasanaeth bws lleol gyda’r Comisiynydd Traffig, sy’n gofyn am 56 diwrnod o rybudd.  Fel corff cyhoeddus, nid oes gennym hawl i gofrestru gwasanaethau bws â chymhorthdal ar ffyrdd gwasanaethau bysiau masnachol sydd eisoes yn bodoli (os ydyn nhw’n gweithredu’n ddiwydiannol neu beidio) a gallem gael ein herio’n gyfreithiol gan weithredwyr masnachol pe baem yn gwneud hynny.

Yn ogystal â hyn, gan ystyried y nifer posibl o wasanaethau bws Arriva y gallai hyn effeithio arnyn nhw, nid oes gan y Cyngor y capasiti sydd ei angen i gynnig darpariaeth amgen ar gyfer disgyblion sydd ddim yn gymwys.

Rwyf wedi sylwi bod yna le ar y cludiant amgen mae’r Cyngor yn ei ddarparu, a fydd fy mhlentyn i’n cael defnyddio’r cludiant hwnnw?

Na fydd. Yn anffodus, ni all y Cyngor gynnig darpariaeth cludiant amgen ar gyfer teithwyr sy’n talu am eu tocyn. Er bod cludiant amgen yn cael ei ddarparu ar gyfer disgyblion cymwys, nid yw'r Cyngor mewn sefyllfa i gynnig trefniadau cludiant amgen ar gyfer disgyblion sydd ddim yn gymwys. I wneud hynny, byddai’n rhaid i’r Cyngor gofrestru’r daith fel gwasanaeth bws lleol gyda’r Comisiynydd Traffig, sy’n gofyn am 56 diwrnod o rybudd.  Fel corff cyhoeddus, nid oes gennym hawl i gofrestru gwasanaethau bws â chymhorthdal ar ffyrdd gwasanaethau bysiau masnachol sydd eisoes yn bodoli (os ydyn nhw’n gweithredu’n ddiwydiannol neu beidio) a gallem gael ein herio’n gyfreithiol gan weithredwyr masnachol pe baem yn gwneud hynny.

Yn ogystal â hyn, nid ydym yn cadw cofnod o nifer y teithwyr sy’n talu am eu tocyn (yn cynnwys disgyblion sy’n talu am eu tocyn) sy’n teithio ar wasanaethau bysiau Arriva ar draws y Sir, na lle maen nhw’n byw, a lle maen nhw'n teithio ohono ac i ble. 

Mae fy mhlentyn yn teithio i Goleg Cambria a gartref ar Wasanaeth Arriva ac mae wedi cael tocyn Arriva gan y Coleg, a fydd cludiant amgen yn cael ei ddarparu?

Na fydd, gan ystyried yr holl wasanaethau bysiau Arriva posibl sy’n gwasanaethu’r coleg y gallai hyn effeithio arnyn nhw, nid oes gan y Cyngor y capasiti sydd ei angen i gynnig darpariaeth amgen.  Mae Coleg Cambria yn ymwybodol o’r gweithredu diwydiannol posibl a’r posibilrwydd y bydd hyn yn tarfu ar deithiau pobl ac rydym yn annog myfyrwyr sydd fel arfer yn defnyddio gwasanaethau Arriva i deithio i’r coleg a gartref i wneud trefniadau eraill ar gyfer yr wythnosau sydd i ddod.