Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datblygiad siop Lidl arfaethedig yng Nghei Connah

Published: 25/11/2021

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch bod Lidl GB yn bwriadu cyflwyno cais cynllunio i ddod â siop Lidl newydd i Gei Connah ar safle hen siop Somerfield/Co-op ar y Stryd Fawr. 

Mae Lidl yn cynnig buddsoddiad sylweddol yng Nghei Connah, a fydd yn adfywio’r safle tir llwyd amlwg hwn a darparu siop Lidl newydd a modern 1,414 metr sgwâr, a fydd yn cynnig dewis lleol gwell. Mae’r cynlluniau’n cynnwys:

  • Disodli’r adeilad presennol gyda siop Lidl newydd, effeithlon o ran ynni, a fydd yn cynnwys paneli solar ar y to a mannau gwefru cerbydau trydan yn y maes parcio.
  • Ailwampio’r ardaloedd allanol a’r maes parcio presennol i ddarparu 160 o fannau parcio.

Cyn cyflwyno cais cynllunio i Gyngor Sir y Fflint bydd Lidl yn ymgynghori â’r gymuned leol. Gallwch weld y dogfennau cais cynllunio drafft ar-lein yn connahsquay.expansion.lidl.co.uk.

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:

"Mae’n galonogol iawn gweld bod Lidl yn mynd ati i geisio buddsoddi yn yr ardal hon o Lannau Dyfrdwy. Bydd hyn yn cynnig cyfleoedd gwaith newydd a bydd y lleoliad presennol yn cael ei drawsnewid gyda siop a phrofiad siopa newydd yn y lleoliad hwn, sydd i’w groesawu’n fawr.  Mae swyddogion y Cyngor wedi bod yn trafod â Lidl ers peth amser er mwyn troi hyn yn realiti ac mae’r trafodaethau hynny wedi dwyn ffrwyth.” 

Meddai Cynghorydd Sir y Fflint, Martin White:

“Fel aelod lleol ward Gwepra, rwyf wrth fy modd o weld y cynnydd sy’n cael ei wneud ar hen safle’r archfarchnad yng Nghei Connah. Rwy’n annog pob preswyliwr i fynegi eu barn am y cynigion sydd wedi’u cyflwyno.”

Meddai Cynghorydd Sir y Fflint ar gyfer Gorllewin Shotton, y Cynghorydd Sean Bibby: 

“Rwy’n falch iawn o weld Lidl yn cyflwyno cynlluniau ar gyfer hen safle Somerfield yng Nghei Connah. Mae wedi bod yn wag ers nifer o flynyddoedd a bu problemau parhaus gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol a fandaliaeth, a gobeithio y bydd gwaith ailddatblygu yn mynd i’r afael â hyn. Mae’n safle o bwysigrwydd strategol o ran adfywio Cei Connah a Shotton, a gobeithio y bydd yn ychwanegiad gwych i’r ardal hon a chynyddu nifer yr ymwelwyr ar Stryd Fawr Shotton. Rwy’n annog pob preswyliwr i ymgysylltu â’r broses ymgynghori er mwyn rhannu eu barn.”