Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant i’r Cyngor gydag apêl cynllunio

Published: 30/11/2021

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i amddiffyn apêl wedi i gais cynllunio diweddar gael ei wrthod.

Roedd perchennog eiddo ym Mhenarlâg wedi gwneud cais i addasu'r atig gyda ffenestr gromen.

Gwrthodwyd y cais cynllunio gwreiddiol oherwydd yr effaith y byddai’r datblygiad arfaethedig yn ei chael ar gymeriad ac ymddangosiad y ty ei hun a’r ardal gyfagos. 

Daeth yr Arolygydd i’r casgliad y byddai’r cais yn:

“peidio â bod yn gyson gyda’r safle a’r ardal o’i amgylch, yn nhermau’r safle, graddfa, dyluniad ac ymddangosiad allanol. Ni fyddai’r datblygiad yn parchu graddfa’r datblygiadau cyfagos, nac yn cyflwyno wyneb cadarnhaol na deniadol i’r adeilad. Ni fyddai o safon dyluniad da mewn perthynas â’r ffurf a’r raddfa ‘chwaith. Ni fyddai’r estyniad arfaethedig, yn fy marn i, yn parchu’r dyluniad a lleoliad annedd bresennol.” 

Roedd yr Arolygydd wedi ystyried safle ‘wrth gefn’ arfaethedig gan yr apelydd, ond roedd yn cytuno gyda’r Cyngor nad yw’r safle “wrth gefn’ a’r enghreifftiau o ffenestri gromen eraill a gyflwynwyd i gefnogi’r datblygiad yn gorbwyso’r gwrthdaro a nodais yn y cynllun datblygu. Mae’r balans cynllunio yn yr achos hwn yn erbyn caniatáu’r apêl.”

Roedd yn cytuno gyda’r Cyngor a daeth i’r casgliad y dylai’r apêl gael ei wrthod.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Sir y Fflint:

“Mae’r llwyddiant wrth wrthod yr apêl yma yn dangos bod penderfyniad gwreiddiol Sir y Fflint yn un cywir. Wrth ystyried pob cais mae’r Cyngor yn dilyn camau pwyllog a threfnus ac rydym yn cymryd pob safbwynt i ystyriaeth.”