Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathlu Wythnos Genedlaethol Plannu Coed

Published: 03/12/2021

I ddathlu Wythnos Genedlaethol Plannu Coed a gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, mae EQUANS - Y brand newydd ar gyfer gweithgareddau a gwasanaethau adfywio ENGIE - wedi rhoi 50 o goed sydd wedi cael eu plannu yng Nghei Connah a Shotton.

Mae’r rhodd yn rhan o ymrwymiad gwerth cymdeithasol EQUANS yn dilyn cwblhau’r ffermydd solar gwerth £3.1m ar safleoedd tirlenwi Crumps Yard a Fflint. Bydd y fferm solar, a gwblhawyd ym mis Chwefror 2021, yn cynhyrchu mwy na 3487MWh o drydan y flwyddyn, yn ogystal ag arbed mwy na 800 tunnell o CO2 y flwyddyn.

Roedd gan y cwmni hefyd 11 aelod o staff wrth law i blannu’r coed gyda chymorth ceidwaid cefn gwlad Sir y Fflint a chynrychiolwyr o Lwybr Arfordir Cymru. 

Roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr er gwaethaf y tywydd.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson, Aelod Cabinet Cyllid a Gwerth Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: 

“Mae’n braf gweld ein partneriaid yn cefnogi ein cymuned leol yn y ffordd hon fel rhan o’u hymrwymiad i werth cymdeithasol.  Mae coed yn rhan bwysig o fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a llygredd aer, yn ogystal â chyfrannu at greu amgylchedd mwy naturiol mewn ardaloedd trefol i roi gwell ymdeimlad o les i bob un ohonom. Rydym i gyd yn gwybod, wrth i ni blannu mwy o goed, ein bod yn darparu cynefin hanfodol i adar a phryfaid sydd yn rhan bwysig iawn o fioamrywiaeth ein sir.” 

Dywedodd Barry Tayburn, Pennaeth Ynni ac Arloesiad EQUANS:

“Mae’n wych cael bod yn rhan o weithgareddau fel hwn gyda Chyngor Sir y Fflint a’i bartneriaid, gan gyfuno gwerth cymdeithasol gyda chynaliadwyedd, dau o’n prif flaenoriaethau.

“Diolch i bawb am eich gwaith caled yn y gwynt a’r glaw, gyda’n gilydd rydym wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd gwyllt lleol, wedi gwella ansawdd aer yn ein cymunedau.”

 

mike and engie.jpg



Ceidwad Cefn Gwlad Sir y Fflint, Mike Taylor, gyda th?m EQUANS