Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Hawliau’r Gymraeg

Published: 06/12/2021

2021 Diwrnod Hawliau.jpgAm y drydedd flwyddyn yn olynol mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gefnogi Diwrnod Hawliau, sef diwrnod cenedlaethol hawliau’r Gymraeg, ar 7 Rhagfyr.

Mae gan siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yr hawl i ddelio â sefydliadau cyhoeddus drwy gyfrwng y Gymraeg a chael gwasanaethau Cymraeg ganddyn nhw.

Mae’r hawliau wedi’u creu gan Safonau’r Gymraeg - rhestr o bethau y mae’n rhaid i sefydliad ei wneud yn Gymraeg, er enghraifft:

• ateb galwadau ffôn

• ysgrifennu llythyrau

• cyhoeddi dogfennau

• cyhoeddi gwefannau a negeseuon cyfryngau cymdeithasol

• cynnal cyfarfodydd 

• darparu gwasanaeth derbynfa

Mae’r Cyngor yn un o 120 o sefydliadau sy’n gweithredu’r Safonau ar hyn o bryd, ac mae'n annog preswylwyr i gysylltu â nhw yn Gymraeg, ceisio am swyddi yn Gymraeg a defnyddio gwefan a chyfrif Twitter Cymraeg y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’r Diwrnod Hawliau yn ddiwrnod i hyrwyddo’r ffaith bod gennych chi, ble bynnag rydych chi’n byw yng Nghymru, yr hawl i ddefnyddio’r iaith.  Rydym ni’n falch iawn o fod yn un o’r sefydliadau yng Nghymru sy’n cymryd rhan yn Niwrnod Hawliau’r Gymraeg.  Mae’n gyfle i hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg a cheisio cynyddu nifer y bobl sy’n eu defnyddio.

Dywedodd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg: 

“Ers cyflwyno’r Safonau, mae hawliau siaradwyr a dysgwyr Cymraeg wedi’u trawsnewid. Bellach, mae’r Gymraeg yn rhan o’r ffordd y mae sefydliadau yn cynllunio eu gwasanaethau, ac mae gan bobl hyder cynyddol bod gwasanaeth o ansawdd ar gael iddynt yn Gymraeg. Mae’r Safonau hefyd wedi arwain at sefydlu hawliau i weithwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, gan gynyddu’n sylweddol y cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd.

“Wrth gwrs, mae disgwyl i sefydliadau hyrwyddo eu gwasanaethau drwy gydol y flwyddyn, ond mae rhoi un diwrnod i ddathlu’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael yn ffordd effeithiol o godi ymwybyddiaeth. Mae’n rheswm hefyd i osod dyddiad bob blwyddyn i atgoffa staff yn fewnol am eu hawliau a chynnal gweithgareddau hyrwyddo.”