Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith gwelliannau amgylcheddol ar eglwys yn Y Fflint

Published: 08/11/2016

Cafodd y gwaith ar Gam 2 o waith gwelliannau amgylcheddol ir ardal o amgylch Eglwys Plwyf y Santes Fair a Sant Dewi ar Stryd yr Eglwys Y Fflint, ei atal dros dro yn ddiweddar tra bod archeolegwyr o Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys (CPAT) yn cael y cyfle i astudio nifer o ddarganfyddiadau a ddatgelwyd gan y gwaith. Maer safle yn dyddio or canol oesoedd yn fuan ar ôl i’r dref gael ei sefydlu gan Edward I yn y 1280au, ond cafodd yr eglwys ei hun ei hadeiladu yng nghanol yr 19 ganrif. Maer gwaith presennol yn cael ei gynnal ar dir a fu unwaith yn fynwent, ac mae tystiolaeth o sawl bedd wedi cael eu darganfod, gan gynnwys un oedd yn cynnwys rhan o ysgerbwd. Mae crochenwaith a ganfuwyd yn y bedd yn awgrymu y gallai fod yn dyddio or 18fed ganrif. Mae’r gweddillion a gafodd eu symud yn ofalus gan archeolegwyr bellach wedi cael eu hail gladdu. Dywedodd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu Economaidd: “Maer prosiect i wella golwg yr ardal o amgylch yr Eglwys yn Y Fflint yn rhan o raglen adfywio ehangach y Cyngor ar gyfer y dref. Bydd ymddangosiad ffisegol y dref yn cael ei wellan aruthrol drwy fuddsoddi mewn tai a chyfleusterau cymunedol newydd, gwella blaenau siopau, a pharth cyhoeddus sy’n fwy deniadol. Mae hanes unigryw Y Fflint wedi bod yn ystyriaeth bwysig drwy gydol y broses, ac mae’r darganfyddiadau hyn yn ffurfio pennod gyffrous arall yn natblygiad y dref.” Mae’r Eglwys yn ward y Cynghorydd Ian Roberts, a ddywedodd: “Er bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod y Contractwyr yn cwblhau Cam 2 o’r gwaith gwelliannau amgylcheddol ar amser, maen rhaid rhoi parch dyledus i’r olion archeolegol hynafol a ddarganfuwyd yn yr hen fynwent. “Mae gwaith yn parhau ar y waliau cynnal ar ôl newid bychan yn y dyluniad yn sgil darganfod yr olion archeolegol hyn, ac mae’r cynllun yn mynd rhagddo gyda diwydrwydd dyladwy yn y tir cysegredig sydd o amgylch yr eglwys.”