Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Galwyr Digroeso Amheus

Published: 03/12/2021

Mae Safonau Masnach Sir y Fflint wedi cael gwybod am nifer o alwyr digroeso amheus yn Sir y Fflint dros y dyddiau diwethaf.  Maen nhw wedi bod yn honni eu bod yn gweithio gyda Chyngor Sir y Fflint gan geisio cael mynediad i gartrefi pobl.  Maen nhw’n honni eu bod yn edrych ar inswleiddio a boeleri. Rydym yn falch o ddweud eu bod wedi methu cael mynediad yn yr achosion a adroddwyd eisoes. 

Yn y cyfnod Covid hwn, ni fyddwch yn cael ymweliadau dirybudd gan bobl sy’n mynnu bod angen cael mynediad i’ch cartref. Dywedwch wrthynt am adael a rhowch wybod i Heddlu Gogledd Cymru ar 111.