Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prosiect Meicro-ofal Sir y Fflint

Published: 09/12/2021

Microcare logo.pngPan fyddant yn cyfarfod ddydd Mawrth 14 Rhagfyr, bydd gofyn i Aelodau Cabinet Sir y Fflint barhau i gefnogi’r cynnydd wrth gyflwyno cynllun peilot Meicro-ofal arloesol, a chyfraniad cadarnhaol y cynllun wrth ateb y galw am ofal yn Sir y Fflint. 

Mae’r rhaglen Meicro-ofal a sefydlwyd gan y Cyngor, mewn partneriaeth gyda Chadwyn Clwyd a Llywodraeth Cymru, yn cefnogi ac yn mentora unigolion i ddatblygu eu busnes neu syniad ac mae’n darparu gwybodaeth am hyfforddiant, cyllid ac adnoddau eraill sydd ar gael, yn ogystal â’u tywys nhw drwy ddeddfwriaeth a rheoliadau cyfredol.   Mae hefyd yn cefnogi unigolion i aros yn eu cartrefi eu hunain. 

Fel pob awdurdod lleol arall, mae Sir y Fflint yn wynebu pwysau am y galw cynyddol am ofal cymdeithasol, gyda phoblogaeth hyn sydd yn tyfu ac asiantaethau gofal yn cael anhawster recriwtio a chadw gweithwyr.  Gall cyflwyno gofal mewn ardaloedd gwledig fod yn broblem, ond mae rhaglen Meicro-ofal yn llwyddiant mawr. 

Meicro-ofalwyr yw busnesau bach iawn sy’n amrywio o unig fasnachwyr i fusnesau sy’n cyflogi pump o bobl, sy’n cynnig gwasanaethau math gofal, cefnogaeth neu les hyblyg wedi’u personoli, i bobl ddiamddiffyn, wedi’u teilwra i anghenion yr unigolyn.  Ym mis Medi 2021, roedd y busnesau yma’n darparu i 79 cleient ac yn darparu 497 awr ar gyfartaledd o ofal, cefnogaeth neu les (yn seiliedig ar ffigurau mis Medi). O’r 497 awr, roedd 420 ar gyfer gofal personol ac roedd 77 awr ar gyfer gwasanaethau math lles, er enghraifft glanhau, siopa a chyfeillgarwch.

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint (Partneriaethau) ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint, Cynghorydd Christine Jones:

“Mae adborth gan gleientiaid, teuluoedd, swyddogion y cyngor a meicro-ofalwyr eu hunain wedi bod yn gadarnhaol iawn hyd yn hyn. Mae 10 meicro-ofalwr arall wrthi’n sefydlu eu busnes ar hyn o bryd ac yn mynd drwy ein proses ansawdd.  Yn ogystal â hyn, mae sawl meicro-fusnes presennol yn recriwtio staff i ehangu’r cyflenwad o ofal y gallant ei gynnig. 

“Cawsom ddiddordeb gan ITV Cymru yn ddiweddar a ddarlledodd ddarn hyfryd am feicro-ofalwr, ei chleient a’i theulu a ddangosodd waith gwych sy’n cael ei wneud yn Sir y Fflint." 

Mae busnesau meicro-ofal yn gweithredu ym mhob ardal o Sir y Fflint ac mae’r model yn gost effeithiol. 

Yr argymhellion sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad yw: 

• Bod cefnogaeth gan Swyddog Datblygu Meicro-ofal yn cael ei werthfawrogi ac mae angen ei gynnal.

• Bod ymrwymiad buddsoddiad ariannol i gynnal, amddiffyn a datblygiad pellach y prosiect yn hanfodol.

• Y dylid cydnabod y Fframwaith Ansawdd fel adnodd gwerthfawr y gellir ei ddefnyddio  mewn ardaloedd eraill ar draws Cymru.  

• Adeiladu ar y gefnogaeth sydd ar gael i feicro-ofalwyr gydag anghenion hyfforddiant priodol.  

• Ail-werthuso’r prosiect ym mis Mawrth 2022.