Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Atafaeliadau Tybaco Anghyfreithlon

Published: 07/12/2021

Yn ddiweddar, atafaelwyd cryn swm o dybaco anghyfreithlon o safleoedd masnachol yng Nghei Connah a’r Fflint gan Swyddogion Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint gyda chymorth swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru ac ymchwilwyr arbenigol o’r Ymgyrch CeCe cenedlaethol.

Mewn un lleoliad, yr oedd y tybaco mewn cuddfan yn yr ystafell ymolchi, a oedd wedi ei saernïo’n arbennig ac wedi ei gynllunio’n benodol ar gyfer cuddio’r tybaco fel na fyddai modd ei ganfod.  Darganfuwyd y tybaco mewn fan wedi ei pharcio gerllaw’r ail leoliad.  Y mae ymholiadau i darddiad y tybaco yn mynd rhagddo.  

Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Sir y Fflint:

“Mae gwerthiant tybaco anghyfreithlon yn fater difrifol.  Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn bwriadu gwneud Cymru yn ‘ddi-fwg’ erbyn 2030.  Mae afiechydon yn gysylltiedig ag ysmygu yn dal i fod yn broblem ddifrifol yng Nghymru, ac mae argaeledd cynnyrch tybaco rhad, anghyfreithlon, yn tanseilio’r uchelgais o ostwng cyfraddau’r afiechydon hynny yn sylweddol yng Nghymru.  

“Bydd gwasanaeth Safonau Masnach y Cyngor yn parhau i weithredu ar unrhyw wybodaeth a dderbynnir yn ymwneud â chyflenwi tybaco anghyfreithlon, a bydd yn cynnal gweithgareddau tarfu, yn cynnwys atafaeliad, i rwystro ei gyflenwi.”

Dywedodd Richard Powell, Rheolwr Ymchwiliadau Safonau Masnach Sir y Fflint:

“Mae cyflenwi tybaco anghyfreithlon yn parhau i fod yn broblem yng Nghymru.  Bydd cyflenwyr yn aml yn targedu pobl ifanc sydd o dan yr oed i allu prynu tybaco yn gyfreithlon, er mwyn eu gwneud yn gaeth i’r cynnyrch, er gwaetha’r ffaith eu bod yn ymwybodol o’r problemau iechyd difrifol mae ysmygu yn eu hachosi.  

“Roedd hwn yn ymgyrch llwyddiannus, wedi ei seilio ar wybodaeth o ymgyrchoedd blaenorol a chudd-wybodaeth a dderbyniwyd yn ddiweddar, a oedd yn dynodi bod y targedau yn cyflenwi tybaco anghyfreithlon.  Os oes gennych unrhyw wybodaeth ynglyn â chyflenwi tybaco anghyfreithlon, gellwch hysbysu Crimestoppers drwy’r rhif ffôn 0800 555 111.”

Mae Ymgyrch CeCe yn rhan o strategaeth ehangach CThEM i fynd i’r afael â’r broblem hon; o dargedu grwpiau troseddu cyfundrefnol sy’n gweithio’n rhyngwladol i gynhyrchu a smyglo cynnyrch tybaco anghyfreithlon, i weithgareddau tarfu lleol yn cynnwys atafaelu cynnyrch mewn safleoedd manwerthu lleol.

 

Tobacco 3.12.21.jpg       Tobacco3  3.12.21.jpg