Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad Recriwtio Gofal Cymdeithasol Sir y Fflint

Published: 06/12/2021

AdobeStock_291084988 JOBS FAIR.jpegYn galw ar bawb sy’n chwilio am waith!

Ydych chi eisiau gyrfa werth chweil? 

Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd rhywun? 

Yna dewch i’n digwyddiad recriwtio gofal cymdeithasol sydd ar agor i unrhyw un sy’n chwilio am waith neu sy’n ceisio datblygu eu gyrfa gofal cymdeithasol – mae cyfle i gwrdd â darparwyr gofal ar y diwrnod a chanfod pa ragolygon sydd ar gael.

Mae llawer o gyfleoedd gwych ar gyfer gyrfaoedd mewn gofal cymdeithasol.   Os ydych chi’n angerddol am eich cymuned a chefnogi pobl, efallai mai hon yw’r yrfa i chi.

Cynhelir y digwyddiad ddydd Mawrth, 25 Ionawr 2022 rhwng 10am a 2pm a 5-7pm yn Nhy Calon, Chester Road West, Queensferry, CH5 1SE

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn, cysylltwch â Nia Parry nia.parry@flintshire.gov.uk 07770633453 neu Janiene Davies janiene.davies@flintshire.gov.uk 07770632128.