Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Growth Track 360 yn croesawu cydnabyddiaeth gan Union Connectivity Review o Ogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr fel economi trawsffiniol integredig iawn a’i gefnogaeth i raglen gwella trafnidiaeth

Published: 07/12/2021

Heddiw, croesawodd arweinwyr busnes ac awdurdodau lleol o Ogledd Cymru, y Wirral a Gorllewin Swydd Gaer a Chaer yn y bartneriaeth Growth Track 360 y cyhoeddiad gan Adran Drafnidiaeth y DU ac Union Connectivity Review (UCR), gyda Syr Peter Hendy CBE yn Gadeirydd.

Gofynnodd Llywodraeth y DU i Syr Peter gynnal arolwg manwl ar sut y gall cysylltedd trafnidiaeth ledled y DU gefnogi twf economaidd ac ansawdd bywyd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ac i wneud argymhellion ar y ffordd orau o wella cysylltedd trafnidiaeth rhwng cenhedloedd y DU. Gwnaeth Growth Track 360 gyflwyniad ysgrifenedig i’r UCR ym mis Ionawr a chroesawodd yr adroddiad dros dro ym mis Mawrth a gwnaeth gyflwyniadau ysgrifenedig pellach ar ôl cyhoeddi Cynllun Rheilffyrdd Integredig Adran Drafnidiaeth y DU ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Lloegr ar 18 Tachwedd 2021.

Mae adroddiad terfynol heddiw yn gwneud 19 o argymhellion i Lywodraeth y DU a rhif 7 yw’r mwyaf perthnasol i ranbarth economaidd trawsffiniol Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy a wasanaethir gan Growth Track 360: 

“Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad amlfodd o goridor trafnidiaeth Gogledd Cymru, a datblygu pecyn o welliannau sy’n canolbwyntio ar Brif Linell Gogledd Cymru (gan gynnwys gwell cysyllted â HS2 a thrydaneiddio), yr A55, yr M53 , yr M56 a theithio ymlaen i ac o ynys Iwerddon.”

Mae argymhelliad Rhif 18 yn ychwanegu galwad benodol am well cysylltedd i borthladdoedd ledled y DU drwy wella cysylltiadau cludo nwyddau ar y rheilffyrdd.

Mae’r UCR yn derbyn thema bwysig o holl waith ymgyrchu Growth Track 360 drwy gydnabod presenoldeb meysydd economaidd trawsffiniol hynod integredig a sylweddol yn y DU sydd ag anghenion trafnidiaeth unigryw gyda niferoedd sylweddol o gymudwyr trawsffiniol neu lifau cludo nwyddau rhanbarthol rheolaidd (tud 30). Un o’r cyfryw ranbarthau yw ein rhanbarth ni, sy’n cynnwys Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr, ac ar adeg cyfrifiad 2011, roedd 25% o weithwyr yn croesi’r ffin i weithio a lle mae mynediad o Ogledd Cymru i byrth rhyngwladol yn Lloegr fel Maes Awyr Manceinion yn bwysig dros ben. Yn 2019, symudodd 1.9 miliwn o bobl a 5.3 miliwn tunnell o nwyddau drwy borthladd Caergybi i ac o Iwerddon.

Mae adroddiad Syr Peter Hendy yn nodi bod Trafnidiaeth Cymru a Growth Track 360 wedi bod yn datblygu cynlluniau ar gyfer Metro amlfodd yng Ngogledd Cymru a gwelliannau i Brif Linell Gogledd Cymru, gan gynnwys gwaith ar gyflymder y llinell a gwelliannau mewn capasiti ac uwchraddio’r llinell rhwng Wrecsam, Bidston a Lerpwl, gwelliannau i orsaf Caer a hyb rhyngwyneb yn Crewe i sicrhau’r manteision mwyaf i HS2 (tud 47). Mae’r UCR yn cydnabod rôl amseroedd teithio cynt a gwell capasiti i gefnogi gwell cysylltiadau economaidd trawsffiniol a fydd yn hwyluso cydlyniant cymdeithasol, tai, swyddi a thwf cynaliadwy cynyddol.

Meddai’r Cynghorydd Louise Gittins, Cadeirydd Growth Track 360 ac Arweinydd Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer:

“Yn ei adroddiad i Lywodraeth y DU, mae Syr Peter Hendy wedi derbyn y dadleuon sylfaenol allweddol ar gyfer ymgyrch Growth Track 360 drwy gydnabod presenoldeb ein heconomi trawsffiniol a rôl gwell trafnidiaeth gynaliadwy, ddatblygedig i ddatgloi’r potensial llawn ar gyfer y bobl sy’n byw a gweithio yma ynghyd â’r wlad yn gyffredinol.”

Meddai’r Cynghorydd Ian Roberts, Is-gadeirydd ac Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’n hanfodol nad yw Union Connectivity Review yn dod yn adroddiad arall sy’n hel llwch. Mae adferiad economaidd ar ôl y pandemig yn ein rhanbarth trawsffiniol angen yr hwb y bydd buddsoddiad yn ein rhwydwaith rheilffyrdd yn ei ddarparu. Rydym yn annog Llywodraeth y DU i ryddhau’r cronfeydd datblygu sydd eu hangen ar Trafnidiaeth Cymru a Network Rail er mwyn rhoi ein prosiectau blaenoriaeth at waith.”