Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cadwch lygad am ffrindiau a pherthnasau diamddiffyn

Published: 06/01/2022

Keeping Flintshire safe.jpgMae Cyngor Sir y Fflint yn gofyn i’w drigolion gadw llygad am eu cymdogion a’u perthnasau yn ystod y pandemig parhaus. 

Gydag achosion Covid-19 yn cynyddu drwy’r wlad yn sgil amrywiolyn Omicron, mae’r Cyngor yn gofyn i’r cyhoedd gadw llygad am eu ffrindiau, cymdogion a pherthnasau diamddiffyn a allai fod yn wael eu hunain neu a allai fod yn unig am fod eu hymwelwyr arferol yn hunan-ynysu. 

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts: “Os oes gennych chi gymdogion, ffrindiau neu berthnasau sy’n sâl neu’n unig, cysylltwch â nhw mewn modd diogel i weld a oes arnynt angen cymorth gyda siopa neu unrhyw gefnogaeth arall. 

“Mae’n bosibl mai chi yw’r unig un sy’n cysylltu â nhw, felly byddant yn gwerthfawrogi eich caredigrwydd a’ch ystyriaeth. Gall effaith hunan-ynysu ar bobl sy’n byw ar eu pennau eu hunain neu bobl ddiamddiffyn fod yn anodd iawn. Mae arnom ni eisiau sicrhau nad yw pobl yn teimlo’n ddiamddiffyn neu’n unig a’u hannog nhw i dderbyn cymorth gan deulu, ffrindiau neu bobl maent yn eu hadnabod.    Er fy mod yn gwybod y bydd cymunedau yn Sir y Fflint yn barod i wynebu’r her hon ac yn gwneud eu gorau i gefnogi’r rheiny mewn angen, mae rhai pobl ddiegwyddor wedi defnyddio’r pandemig i gymryd mantais o bobl ddiamddiffyn, a hoffwn ofyn i bawb fod yn wyliadwrus a rhoi gwybod am unrhyw weithgarwch amheus i Heddlu Gogledd Cymru drwy ffonio 101, dylid ond defnyddio 999 os yw’r sefyllfa yn argyfwng.      

“Os gallwch gynnig cymorth a chefnogaeth, mae’n bwysig nad ydych yn dod i gysylltiad agos gydag unrhyw un sy’n hunan-ynysu yn sgil COVID-19. Dylech adael cyflenwadau bwyd neu feddyginiaeth ar y stepen drws. Mae cysylltu gyda ffrindiau neu berthnasau dros y ffôn neu ar-lein yn ffordd dda o wirio eu bod yn iawn heb ledaenu’r feirws ymhellach. “

Anogir pobl i helpu cefnogi’r ymdrech frechu, ac fe allwch chi wneud apwyntiad ar lein neu fynd i glinigau galw heibio dynodedig i gael eich brechiad cyntaf, yr ail neu’r hwblyn.

Mae’r gwasanaeth archebu ar-lein i’w weld yn: https://bipbc.gig.cymru/covid-19/brechlyn-covid-19/trefnu-apwyntiad-ar-lein-pigiad-covid-19/

Mae’n hanfodol ein bod oll yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal lledaeniad Covid-19, ac mae hyn yn cynnwys golchi a diheintio eich dwylo yn rheolaidd, cadw pellter, gwisgo gorchudd wyneb ac agor ffenestri os ydych chi’n cwrdd ag unrhyw un dan do.