Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cronfa Budd Gymunedol Parc Adfer

Published: 13/01/2022

Ddydd Mawrth 18 Ionawr bydd gofyn i Aelodau Cabinet Sir y Fflint gymeradwyo prif gymhwystra a meini prawf Cronfa Budd Cymunedol Parc Adfer a chefnogi lansiad y gronfa yn 2022.

Fel rhan o waith caffael contract Parc Adfer a Phartneriaeth Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru cytunwyd i ariannu a rheoli Cronfa Budd Cymunedol a fyddai ar gael yn ystod cyfnod y contract.  

Hyd yma mae’r gronfa wedi’i defnyddio i ariannu Cronfa Adfer Cymunedol Parc Adfer, sydd bellach ar gau ond sydd wedi dyfarnu gwerth £60,000 a mwy o grantiau i 10 o brosiectau yn 2021. 

Bydd panel a threfniadau llywodraethu presennol y Gronfa Adfer Cymunedol yn parhau yn eu lle ar gyfer y brif gronfa budd cymunedol, felly hefyd y meini prawf cymhwyso trosfwaol. Fodd bynnag, bydd mathau’r prosiectau i’w hariannu yn wahanol i adlewyrchu bwriad gwreiddiol y gronfa, sef ariannu prosiectau cymunedol sy’n darparu buddion amgylcheddol yn yr ardal.  

Bydd Cronfa Budd Cymunedol Parc Adfer yn cefnogi prosiectau sy’n bodloni un o’r pum prif faen prawf isod:

1. Ynni adnewyddadwy

2. Lleihau carbon

3. Ailddefnyddio, ailgylchu a lleihau gwastraff 

4. Bioamrywiaeth a gwelliannau i ansawdd yr amgylchedd lleol

5. Datgarboneiddio cludiant 

Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd Sir y Fflint, y Cynghorydd Glyn Banks:

“Mae Cronfa Budd Cymunedol Parc Adfer yn gronfa hirdymor er budd cymunedau yn ardal y bartneriaeth, yn enwedig y rheiny sydd agosaf at Barc Adfer, gan ganolbwyntio ar gyllido prosiectau sy’n helpu neu’n rhoi budd i’r amgylchedd. Mae hwn yn gynllun buddiol iawn ac anogaf bob sefydliad cymwys i ymgeisio. Bydd y cynllun hwn yn helpu i barhau â’r gwaith amgylcheddol gwerth chweil sydd eisoes yn cael ei wneud." 

Y bwriad yw lansio’r Gronfa Budd Cymunedol ddiwedd mis Chwefror neu ddechrau mis Mawrth 2022.