Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn cefnogi ymgyrch a lansiwyd gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i Gymru

Published: 31/01/2022

Ar unrhyw un adeg mae tua 119 o blant yn aros i gael eu mabwysiadu yng Nghymru, gyda 29 o'r plant hynny yn aros am naw mis neu fwy. 

I fechgyn, grwpiau o frodyr a chwiorydd, plant dros dair oed, a’r rhai sydd â hanes cynnar cymhleth, gall yr aros i ddod o hyd i gartref am byth bara am amser hir. 

Ar gyfartaledd, mae brodyr a chwiorydd yn aros 135 diwrnod yn fwy na phlant unigol i gael eu mabwysiadu. I lawer o ddarpar rieni gall meddwl am fabwysiadu dau blentyn neu fwy godi pryderon am fforddiadwyedd a gofod ffisegol. 

Ond nod ymgyrch newydd sy'n cael ei lansio gan Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yw annog mwy o bobl i fabwysiadu'r rhai sydd wedi bod yn aros hiraf. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint (Partneriaethau) a'r Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Christine Jones: 

 “Mae nifer o blant sy’n aros am gartref yn hyn neu’n rhan o grwp o frodyr a chwiorydd, ac fe allai gymryd llawer o amser i ddod o hyd i gartrefi newydd iddynt.  Yn Sir y Fflint, rydym yn cefnogi’r ymgyrch hwn yn llwyr, a byddem yn annog unigolion, cyplau a theuluoedd i ddarganfod mwy am fabwysiadu.  Rydym yn credu bod gan bawb rywbeth gwahanol i'w gynnig i blentyn neu berson ifanc, ac rydym yn croesawu unrhyw un i gysylltu â ni i wybod mwy.

Meddai Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru: “Gwyddom o waith ymchwil a gynhaliwyd o fewn gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru fod mythau mewn perthynas ag oedran a rhyw yn parhau i fodoli; mae rhai darpar fabwysiadwyr yn credu bod plant iau yn cyflwyno llai o broblemau ac mae eraill yn teimlo ei bod yn haws gofalu am ferched. 

“Nid yw hyn bob amser yn wir gan fod gan bob plentyn anghenion a phrofiadau gwahanol ac yn aml gall y plentyn tawelach fod yn anoddach gweithio ag ef. 

“Weithiau rydyn ni’n gwybod llai am brofiadau plentyn iau ond efallai y bydd gennym ni wybodaeth fanylach am blentyn hyn. Ar gyfer y plant hyn hyn rydym yn aml mewn sefyllfa well i ragweld unrhyw anghenion cymorth yn y dyfodol pe bai ei angen arnynt.

“Rydym yn llwyddo i leoli plant o bob grwp oedran, rhyw, cefndir ac amgylchiadau, ond yn anffodus mae’n bosibl y gall plant hyn, bechgyn, grwpiau o frodyr a chwiorydd a phlant ag anghenion ychwanegol aros ychydig yn hirach.

“Rydym yn annog pobl i ystyried pob plentyn wrth ddod i mewn i’r broses fabwysiadu.” 

Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a’i dimau rhanbarthol yn cefnogi pawb sy’n cael eu heffeithio gan fabwysiadu, gan weithio gyda rhieni biolegol a pherthnasau, rhieni mabwysiadol a gweithwyr proffesiynol i wneud yn siwr bod lles gorau plentyn yn cael ei roi wrth wraidd pob mabwysiadu. I gael rhagor o wybodaeth am fabwysiadu, ewch i adoptcymru.com/dewisteulu.

Yn eu hysbyseb teledu newydd bwerus dilynwn hanes plentyn saith oed wrth iddo gael ei baru â’i deulu newydd. Cliciwch ar y llun i weld yr hysbyseb.

It might take a while for him CYM.jpg

 https://vimeo.com/670683246