Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweithdai Uwchgylchu a Sesiynau Trwsio Refurbs

Published: 03/02/2022

Refurbs.jpgCafodd y Ganolfan Atgyweirio ac Ailddefnyddio, sy’n cynnwys Caffi Cyfle yng nghanol tref Bwcle, menter rhwng Cyngor Sir y Fflint a Refurbs, ei hagor yn swyddogol ym mis Tachwedd gan Hannah Blythyn, AS a’r Dirprwy Weinidog ar gyfer Partneriaethau Cymdeithasol.

Yn y digwyddiad agoriadol, cynhaliodd yr arlunydd lleol, Jayne Hopwood y cyntaf o gyfres o weithdai uwchgylchu. Roedd y cyntaf yn cynnwys sut i wneud pwrs lledr, gan ddefnyddio hen ledr o’r prosiect datgymalu soffas a gafodd ei gynnal gan Refurbs yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Cyngor Sir y Fflint yn Oakenholt.

Wrth edrych ymlaen at 2022, mae mwy o ddyddiadau wedi’u trefnu ar gyfer gweithdai ym mis Ionawr, Chwefror a Mawrth, a fydd yn cynnwys uwchgylchu gemwaith ffasiwn diangen a’i droi’n addurniadau a chreu clytwaith ac appliqué i uwchgylchu defnydd. Ynghyd â’r gweithdai, mae sesiynau trwsio misol wedi’u cynllunio. Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd i aelodau o’r gymuned ddod ag eitemau bach o’u cartref i’r caffi lle gallant ddysgu gan wirfoddolwyr medrus sut i’w trwsio a’u hadfer nhw. 

Rydym ni rwan yn chwilio am wirfoddolwyr o’r gymuned leol sydd efallai â sgiliau yr hoffent eu rhannu ac sydd eisiau bod yn rhan o’r gweithdai a’r sesiynau trwsio. Rydym ni’n chwilio am wirfoddolwyr sydd â sgiliau cyffredinol a gwybodaeth am bethau fel gwaith coed, trwsio pethau trydanol neu electronig, trwsio clociau neu oriorau a gemwaith, gwnïo a gwaith defnydd i fod yn rhan o gynnal y sesiynau. 

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd:

“Rydym ni’n falch o gynnig canolfan mor unigryw a chyffrous yng nghymuned Bwcle gyda’r nod o leihau gwastraff, gan ddod â’r gymuned ynghyd hefyd. 

“Cyffrous iawn yw datblygu’r gweithdai atgyweirio ac ailddefnyddio a sicrhau bod ffyrdd eraill o drin eitemau diangen neu rai sydd wedi torri.

“Os ydych chi’n chwilio am her newydd yn 2022 neu os ydych chi eisiau rhannu eich sgiliau a’ch gwybodaeth gyda phobl eraill yn y gymuned, cofiwch gysylltu.”

Mae’r Ganolfan Atgyweirio ac Ailddefnyddio’n lle croesawgar a hamddenol ac mae’r caffi’n cynnig dewis o fwyd ffres a diodydd poeth i’w mwynhau yn y Ganolfan neu i fynd â nhw gyda chi.

Os oes gennych chi ddiddordeb cymryd rhan ac os hoffech chi roi cynnig ar wirfoddoli mewn gweithdy neu sesiwn atgyweirio i rannu eich sgiliau a’ch gwybodaeth, cysylltwch â Hanna Clarke ar 01978 757524 / events@refurbs.org.uk 

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am bopeth sy’n digwydd yng Nghanolfan Atgyweirio ac Ailddefnyddio Bwcle drwy fynd i www.refurbs.org.uk ac ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol.