Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Beth ddigwyddodd?

Published: 07/02/2022

Yn ddiweddar, lansiodd tîm Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint fideo unigryw yn amlygu mewnwelediad i’r pandemig Covid-19 a’r ymatebion iddo gan bobl ifanc a sut yr oedd wedi effeithio ar eu bywydau.

Mae’r fideo yn dangos actorion ifanc yn lleisio meddyliau a theimladau pobl ifanc lleol ac mae’r fideo wedi’i sgriptio yn dangos gwir adlewyrchiad o sut yr oeddent wedi ymdopi yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a sut maent wedi addasu i newid.  

Rhwng Mawrth a Mehefin 2021, roedd y tîm wedi cyfarfod cannoedd o bobl ifanc i wrando ar sut yr oeddent wedi ymdopi yn ystod yr amseroedd digynsail hyn. Rhoddodd y bobl ifanc hyn o’u hamser ac roedd eu barn a’u cyfraniadau’n onest a theimladwy.

Cafodd pob sesiwn ei arwain gan ymarferydd theatr ac aelodau o’r tîm Darpariaeth Ieuenctid Integredig.  

Dywedodd Ann Roberts, Uwch-Reolwr Darpariaeth Ieuenctid Integredig:

“Cafodd yr hyn wnaethom ei ddysgu gan y bobl ifanc ei ddatblygu yn sgript gan yr ymarferwyr theatr a pherfformiwyd gan actorion ifanc lleol. 

“Mae’r actorion ifanc wedi gwneud gwaith gwych ac roeddent y lleisiau perffaith i gynrychioli’r bobl ifanc y siaradom â hwy.  

“Mae’r ffilm yn rhoi cipolwg emosiynol o deimladau ein pobl ifanc ac yn cyfleu eu gobeithion ar gyfer y dyfodol a’r gwersi a ddysgwyd yn ystod y pandemig.  Peidiwch â cholli’r cyfle arbennig hwn! 

“Rwyf wirioneddol eisiau i’r sawl wnaeth wylio’r ffilm i deimlo eu bod yn gweld bywyd yn y cyfnod clo drwy lygaid ein pobl ifanc ac uniaethu â nhw.” 

Mae’r actorion i gyd yn bobl ifanc, y rhan fwyaf ohonynt o Sir y Fflint, wnaeth yn rhagorol yn lleisio meddyliau a theimladau a fynegwyd yn ystod y sesiynau a gynhaliwyd yn 2020 – da iawn i Nel Williams, Siobhan Hill, Iwan Barnes, Seren Edwards, Haydn Jones a Sion Emlyn Williams-Jones.

Diolch i’r holl bobl ifanc wnaeth gymryd rhan yn y prosiect hwn – ni fyddem wedi llwyddo hebddoch chi.

  • Ysgol Maes Garmon 
  • Ysgol Uwchradd Treffynnon 
  • Ysgol Uwchradd Cei Connah
  • Grwp Inspire Pride 
  • Grwp Cyfranogiad Gwasanaethau Plant
  • NEWCIS
  • Cyngor Sir y Fflint – Prentisiaethau Dysgu a Datblygu

I wylio’r ffilm, ewch i: bethddigwyddodd

WJH.jpg