Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Crynodeb Archwilio Blynyddol Sir y Fflint 2020/21

Published: 11/02/2022

Bydd aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cael eu sicrhau gan Grynodeb Archwilio Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2020/21 pan fyddant yn cyfarfod ddydd Mawrth 15 Chwefror. 

Ar y cyfan, daeth Archwilydd Cyffredinol Cymru i gasgliad cadarnhaol. “Bu i'r Archwilydd Cyffredinol gadarnhau fod y Cyngor wedi cyflawni gweddill ei ddyletswyddau Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21, a nodwyd gan orchymyn a wnaed o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.”

Ni wnaed unrhyw argymhellion ffurfiol yn ystod y flwyddyn. Mae nifer o gynigion newydd ar gyfer gwelliant (dau ohonynt eisoes wedi eu gweithredu) a chynigion datblygu'n codi o'r adolygiadau a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, y Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau:

"Rwy'n croesawu'r adroddiad cadarnhaol hwn gan yr Archwilydd Cyffredinol sy'n dangos yn glir bod y Cyngor yn gweithredu'n effeithiol, mewn blwyddyn heriol arall ar gyfer llywodraeth leol. 

“Rwyf hefyd yn falch fod yr Archwilydd Cyffredinol wedi rhoi barn ddiamod, gwir a theg ar ddatganiadau ariannol y Cyngor ar 29 Medi 2021, deufis cyn y terfyn amser statudol.  Dengys hyn ein llwyddiant blaenorol o reoli cyllidebau’n effeithiol, a hefyd ein hymdrechion unol a pharhaus a’n hymrwymiad i ddefnyddio ein hadnoddau mor effeithlon â phosibl.” 

Bydd ymateb y Cyngor i'r cynigion ar gyfer gwelliant yn cael ei rannu yng nghyfarfod mis Mawrth gan nodi’r adroddiadau a'r ymatebion.