Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad Recriwtio Gofal Cymdeithasol Sir y Fflint

Published: 07/02/2022

Social care CYM.JPGYn galw ar bawb sy’n chwilio am waith!

Ydych chi eisiau gyrfa werth chweil? 

Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd rhywun? 

Yna dewch i’n digwyddiad recriwtio gofal cymdeithasol sydd ar agor i unrhyw un sy’n chwilio am waith neu sy’n ceisio datblygu eu gyrfa gofal cymdeithasol – mae cyfle i gwrdd â darparwyr gofal ar y diwrnod a chanfod pa ragolygon sydd ar gael.

Mae llawer o gyfleoedd gwych ar gyfer gyrfaoedd mewn gofal cymdeithasol.   Os ydych chi’n angerddol am eich cymuned a chefnogi pobl, efallai mai hon yw’r yrfa i chi.

Cynhelir y digwyddiad ddydd Iau, 24 Chwefror 2022 rhwng 10am - 2pm a 5 - 7pm yn Nhy Calon, Chester Road West, Queensferry, CH5 1SE

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn, cysylltwch â Nia Parry nia.parry@flintshire.gov.uk  07770 633453 neu Janiene Davies janiene.davies@flintshire.gov.uk  07770 632128