Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Strategaeth Gaffael

Published: 11/11/2016

Ar ôl cymeradwyo rheolaur weithdrefn newydd ynglyn â sut mae caffael yn digwydd, bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint adolygu Strategaeth Gaffael newydd yn ei gyfarfod ar 15 Tachwedd. Mae’r Cyngor eisoes yn cael gwerth da am arian o’i weithgarwch caffael a bydd y strategaeth hon yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw ac yn creu cysylltiadau cryfach rhwng gweithgarwch caffael a chyflawni blaenoriaethau gwella’r Cyngor. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, yr Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol: “Yn ogystal â hyrwyddo contractau gyda busnesau lleol, nod y strategaeth yma ydi cynyddu nifer y contractau syn cael eu rhoi i fentrau cymdeithasol ac annog defnydd o gymalau manteision cymunedol. Mae’r strategaeth yma’n cynnwys mesurau clir iawn a fydd yn dangos sut mae gwariant y Cyngor yn ychwanegu gwerth at yr economi leol ac yn fanteisiol i’n cymunedau. Mae’r Strategaeth Gaffael yn rhan bwysig iawn o Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor ac felly fe fydd yn cefnogi datblygiadau pellach i wneud y gorau o ddarpariaeth y gwasanaeth am y gost leiaf bosib.”