Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn chwifio’r faner

Published: 17/02/2022

Mae Cyngor Sir y Fflint yn codi'r faner enfys y tu allan i Neuadd y Sir unwaith eto eleni i gefnogi mis hanes pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol (LGBT+) yn ystod mis Chwefror. 

Mae'r digwyddiad blynyddol hwn yn rhoi cyfle i bobl ddysgu mwy am hanes a chyflawniadau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol a'r mudiad hawliau pobl hoyw a hawliau sifil. 

Mae hyn hefyd yn adeg i gofio am y camwahaniaethu y mae llawer wedi’i wynebu a’r daith a wnaed tuag at gydraddoldeb LGBT+. 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Mae codi’r faner enfys yn bwysig i’r Cyngor. Mae chwifio'r faner drwy gydol mis hanes LGBT+ yn anfon neges glir ein bod wedi ymrwymo i gydraddoldeb i bawb, o fewn y Cyngor a'n cymuned ehangach”.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i’w gwefan: http://lgbthistorymonth.org.uk/ 

LGBT flag (2 of 5).jpg    LGBT flag (5 of 5).jpg