Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datganiad y Cyngor ar y Gyllideb 

Published: 10/02/2022

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cwrdd yr wythnos nesaf i wneud argymhellion terfynol ar gyfer gosod cyllideb gytbwys ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23.

Fe dderbyniodd y Cyngor gynnydd blynyddol o 9.2% yn ei grant gan Lywodraeth Cymru o’i gymharu â’r Cyfartaledd Cymreig o 9.4%.

Fodd bynnag mae angen i’r cynnydd hwn gynnwys nifer o gyfrifoldebau penodol fel effaith lawn y dyfarniadau cyflog ar gyfer y gweithlu sy’n Dysgu a’r rhai Nad Ydynt yn Dysgu a gweithredu’r Cyflog Byw Gwirioneddol.  Yn ychwanegol fe fydd Cronfa Galedi Llywodraeth Cymru, sydd wedi ei defnyddio i fynd i’r afael â’r costau ychwanegol a’r incwm a gollwyd o ganlyniad i’r pandemig, yn dod i ben ddiwedd Mawrth sy’n golygu y bydd rhaid i’r Cyngor ysgwyddo’r costau hyn. 

Yn ystod y blynyddoedd blaenorol mae’r Cyngor wedi gosod cyfarwyddyd clir y dylai unrhyw gynnydd blynyddol fod yn 5% neu lai.  

Mae cymryd hyn i gyd i ystyriaeth yn darparu gofyniad cyllidebol ychwanegol o £30.562m.  Yn ogystal â’r cynnydd gan Lywodraeth Cymru - mae angen cynnydd blynyddol cyffredinol o 3.3% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer holl Wasanaethau’r Cyngor a 0.65% i fodloni cost cyfraniadau ychwanegol i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth Rhanbarthol y Crwneriaid a Chonsortiwm Addysg Ranbarthol GwE. Mae hyn yn gyfystyr â chynnydd cyffredinol o 3.95% ac mae’n darparu arenillion ychwanegol cyffredinol o £3.825m yn 2022/23.

Mae hyn yn golygu cynnydd blynyddol o £55.08 y flwyddyn ac mae’n dod â’r cyfanswm i £1,449.58 ar gyfer yr hyn sy’n gyfystyr â Band D (sy’n gyfystyr â £1.06 yr wythnos).

Mae Sir y Fflint, fel yr holl gynghorau yn ddibynnol iawn ar Lywodraethau i ariannu’r gwasanaethau cyhoeddus yn iawn ar ôl blynyddoedd o gyni a thoriadau yn y sector cyhoeddus ar lefel genedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dyraniadau mynegol llawer is ar gyfer 2023/24 a 2024/25 o 3.5% a 2.4% a fydd yn cyflwyno heriau gwirioneddol i fodloni’r cynnydd parhaus mewn gofynion gwasanaeth a chwyddiant, yn arbennig mewn gofal cymdeithasol.  

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn cyflwyno cyllideb gytbwys ac yn cynnal gwasanaethau’r Cyngor.  Rydym yn ymwybodol iawn o’r pwysau ariannol y mae pob aelwyd yn ei wynebu ac felly rydym wedi cadw ein cynnydd o ran Treth y Cyngor o dan 4%.”  

Dywedodd Aelod Cabinet Cyllid y Cyngor, y Cynghorydd Paul Johnson:

“Tra bod y cynnydd yn y dyraniad gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2022/23 wedi ei groesawu mae’n parhau i gyflwyno heriau sylweddol o ran bodloni’r cyfrifoldebau ychwanegol ar gyfer costau’r gweithlu a diwedd y Gronfa Galedi, cronfa yr ydym wedi bod yn ddibynnol iawn arni. Er gwaetha’r heriau hyn, rydym yn parhau i fod wedi gallu argymell sefyllfa o gyllideb gytbwys i’r Cyngor tra’n cadw’r cynnydd blynyddol yn nhreth y cyngor yn is na chwyddiant.   Rydym yn gyngor cyllid isel sy’n gwneud defnydd effeithlon o’n hadnoddau fel gaiff ei gadarnhau yn rheolaidd gan ein rheoleiddiwr ariannol Archwilio Cymru.”