Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Teyrnged i Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg

Published: 15/02/2022

"Rydym wedi clywed y newyddion trist fod Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg wedi marw. Bu Aled yn Gynghorydd Wrecsam ac yn Arweinydd Cyngor Wrecsam, yn Aelod Rhanbarthol o Gynulliad Cymru ar gyfer Gogledd Cymru fel yr oedd adeg hynny, ac yn fwy diweddar yn Gomisiynydd y Gymraeg.  

"Mae hi’n amlwg i bawb fod Aled yn caru’r Gymraeg a phwysigrwydd datblygu’r Gymraeg. Roedd Aled yn garedig iawn gyda dysgwyr Cymraeg ac roedd ganddo ddiddordeb yn natblygiad dysgwyr Cymraeg gan eu hannog i ddefnyddio’r iaith a magu hyder ynddynt. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fyddwn ni’n ystyried uchelgais Llywodraeth Cymru o gyflawni 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Fe fydd y Cyngor yn ysgrifennu at Llinos gwraig Aled, a’i deulu i fynegi ein cydymdeimladau â hwy yn dilyn ei farwolaeth drist." 

Y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint