Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Strategaeth Pobl

Published: 11/11/2016

Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo Strategaeth Pobl y Cyngor 2016-19 yn ei gyfarfod nesaf ar 15 Tachwedd. Maer strategaeth newydd, sydd wedi cael ei ddatblygu yn erbyn cefndir o newid sefydliadol cyflym a phwysau ariannol, yn dangos bod y Cyngor yn gyflogwr modern a blaengar. Maer strategaeth hon yn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes wedii gyflawni yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys: · Datblygu cynllun Prentisiaeth · Gweithredu gweithio ystwyth a hyblyg · Rheoli Dogfennau Electronig (EDM) sydd wedi galluogi uno ffeiliau staff AD, Cyflogau ac Addysg, creu tîm Adnoddau Dynol a Datblygu Trefniadaeth cryf a chost-effeithiol · Datblygu modiwlau e-ddysgu i gefnogi datblygiad Modelau Darparu Gwasanaeth Amgen, arweinyddiaeth a rheolaeth. Maer Cyngor yn dechrau ar gyfnod pellach o newid sylweddol, fel y disgrifir yn y cynllun gwella. Bydd cael dealltwriaeth fanwl on gweithlu presennol a gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yn ein galluogi i gydlynur gwaith o ddatblygu cynlluniau gweithlu manwl i fynd ir afael âr bwlch rhwng y gweithlu presennol ar hyn sydd angen ir gweithlu fod yn y dyfodol i gyflwyno gwasanaethau’r dyfodol. Maer strategaeth yn nodi pum amcan strategol allweddol: · Cynllunio Gweithlur Dyfodol · Datblygu Cynhwysedd y Gweithlu ac Arweinyddiaeth · Rheoli Perfformiad · Gwobrau a chydnabyddiaeth · Galluogi Newid drwy Fodelau Amgen Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol: “Er mwyn bod yn Gyngor Modern ac Effeithlon, mae arnom angen sefydliad syn arloesol, yn hyblyg, yn gysylltiedig ac yn dryloyw, gyda materion pobl yn uchel ar yr agenda. Bydd gweithlu ymrwymedig, llawn cymhelliant, hyblyg a phroffesiynol yn cynnig gwasanaeth gwych, yn gallu bod yn gryf yn wyneb y newidiadau sydd o’n blaenau a bod yn ddeinamig ac yn ymatebol i anghenion newidiol ein trigolion a’n cwsmeriaid.”